Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EUROPASEMINAR 1959 Gan FRANK PRICE JONES DYNA'R teitl swyddogol a roes llywodraeth Awstria ar y gyn- hadledd a drefnwyd gan Gyngor Ewrop yn St Wolfgang ddiwedd Mehefin 1959-Europaseminar 1959. Amcan y gynhad- ledd ydoedd casglu ynghyd nifer bychan o gynrychiolwyr pob un o'r gwledydd sy'n aelodau o Gyngor Ewrop i drafod "Y Syniad o Ewrop Unol mewn dosbarthiadau pobl mewn oed", a chefais i y fraint o gynrychioli Cymru yn un o'r tri aelod o'r Deyrnas Gyfunol. Prif Arolygydd Addysg Pobl Mewn Oed yn Lloegr ydoedd y Sais, ac athro rhan-amser gyda'r WEA a gynrychiolai Sgotland. Yr oedd wyth aelod ar hugain yn siarad dros un ar bymtheg o wledydd o gwmpas y byrddau hir, ond yr oedd yno hefyd dros ugain o "sylwedyddion" a gwyr y wasg yn gwylio'r gweithred- iadau, y rhan fwyaf ohonynt o Awstria, ond ambell un o wledydd eraill hefyd. Ffrangeg a Saesneg ydoedd yr ieithoedd swyddogol, ond yn Almaeneg y traddodwyd y rhan fwyaf o'r darlithiau ac Almaeneg a ddefnyddiwyd fwyaf yn y trafodaethau. Oherwydd hyn, yr oedd dyled llawer ohonom yn fawr i'r cyfieithwyr a eisteddai mewn cubicle ym mhen draw'r neuadd, gyda chlust-ffôniau am eu pennau a meicroffon o'u blaenau. Yr oedd yn rhaid i minnau wedyn wisgo clust-ffôniau, a thrà yr edrychwn ar y darlithwyr yn traethu mewn iaith estron, gwrand- awn ar lais y cyfieithydd yn rhoi eu geiriau bron ar unwaith yn Saesneg. Yn ystod wythnos gyntaf y gynhadledd, merch ifanc o Fienna oedd yn cyfieithu i'r Saesneg, ac nid yw'r gair "gwyrthiol" yn rhy gryf i ddisgrifio ei gwaith. Nid oedd lawn cystal arnom yr ail wythnos, oherwydd tueddai'r gwr ifanc a gymerodd le'r ferch i gyfieithu i eiriau Saesneg yn hytrach nag i'r Saesneg; a phan gewch-chwi gymhlethdodau athronyddaidd y meddwl Almaen- aidd yn cael eu troi i eiriau Saesneg yn ôl cystrawen yr Almaeneg -a hynny drwy glust-ffôniau am dair awr ar y tro-coeliwch fi, chwi deimlwch eich bod wedi gwneud diwrnod da o waith Yr argraff ddyfnaf un a adawyd arnaf ydoedd y croeso brwd- frydig a hael a estynnai Llywodraeth Awstria i'r gynhadledd gyd- wladol hon. Caf ddychwelyd at hyn cyn diwedd fy ysgrif, ond rhaid imi nodi yma farn M. Jean Raty, y swyddog o Adran