Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CAMPWAITH D. J. WILLIAMS Gan F. WYNN JONES Yn Chwech ar Hugain Oed, gan D. J. Williams. Gwasg Aber- ystwyth. 15/ PAN oeddwn i yn hogyn deg oed yn yr Ysgol Elfennol yn Llandrillo (yn y flwyddyn 1908) aeth yr athrawes ieuanc o'r De a ofalai am y dosbarthiadau canol i ffwrdd i briodi a daeth gŵr ieuanc o rywle arall yn y De i lenwi'r bwlch. Enw'r athro newydd hwnnw oedd D. J. Williams, ac amdano ef yr wyf yn awr, ar ôl i hanner can mlynedd fyned heibio, yn cael cyfle i "ddweud gair". 'Chefais i mo'r fraint o fod yn ddisgybl iddo yn ysgol Llan- drillo, oherwydd yr oeddwn erbyn hynny ym melin arbennig y prifathro, sef melin y paratoi ar gyfer arholiad yr Ysgol Sir. Y mae gennyf, er hynny, ddarlun perffaith ohono yn fy nghof, gyda'i fochau cochion a'r sglein siriol arnynt ymhlith ei brif nodweddion. Mi wyddwn hefyd am y sôn a'r siarad yn yr ardal amdano yn mynd ati o fwriad i gryfhau ei gyhyrau, ac mi glywais ddywedyd y byddai gweision ffermydd yn sefyllian y tu allan i'w lety wedi nos gan obeithio gweld ei gysgod ar lenni ei ffenestr yn mynd trwy ei gampau gyda'r dumb-bells. Ni chefais gyfle i'w gyfarfod fwy na rhyw unwaith mewn deng mlynedd oddi ar hynny; ond ar dro, pan glywaf eraill yn honni eu bod hwy ac yntau yn hen hen ffrindiau, mi fyddaf yn eu hatgoffa fy mod i yn ei adnabod ymhell cyn iddynt hwy glywed sôn am ei enw, gan led-awgrymu fod meithder fy adna- byddiaeth yn fy rhoi mewn dosbarth arbennig ymhlith ei gyd- nabod. 'Wn-i ddim a yw hynny yn rhoi hawl imi draethu amdano ai peidio, ond traethu a wnaf, yn enwedig am ffrwyth diweddaraf ei ddawn ddisglair, sef y gyfrol Yn Chwech ar Hugain Oed. Parhad yw'r gyfrol hon o'r hunangofiant a ddechreuodd yn yr Hen Dy Ffarm. Dangosodd y gyfrol honno fod D. J. Williams yn hollol ar ei ben ei hun ymhlith hunangofianwyr Cymru. Yn wir, gwnaeth lawer mwy na chychwyn ar ei hunangofiant, oher- wydd y mae'r gyfrol yn ddrych cyflawn a pherffaithuo fywyd bro'i febyd fel y gwelwyd hi ganddo ef yn ystod chwe blynedd cyntaf ei oes cyn diwedd y ganrif ddiwethaf. 'Waeth imi gyfaddef y gwir, imi orfod rhoi fy ewyllys ar waith i barhau i ymlwybro drwy'r penodau hanesyddol ar y dechrau, ond hyfrydwch pur