Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PEDAIR CAINC Y MABINOGI, IV Gan J. E. CAERWYN WILLIAMS Cainc 3: Manawydan fab Llyr HEB gadw rhediad y stori'n gadarn yn y cof ni ellir gobeithio deall damcaniaeth W. J. Gruffydd am y Drydedd Gainc, ac felly rhaid dechrau trwy roi amlinelliad. (1) Ar ôl claddu pen ei frawd, Bendigeidfran, yn Llundain, cwyna Manawydan wrth ei gymdeithion fod gan bawb ond ef ei Ie ei hun. Cais Pryderi ei gysuro trwy ei atgoffa ei fod wedi'r cwbl yn gefnder i Gaswallon, y Brenin, ac er ei fod wedi cael cam gan hwnnw yn y gorffennol, nid yw hynny mor bwysig ag y byddai pe bai Manawydan yn hawlio tir yn hytrach na bod yn un o Dri Lleddf Unben yr Ynys, sef yn un o'r tri phennaeth na safent am eu hawliau. Gwêl Pryderi nad yw ei eiriau'n tycio, ac y mae'n cynnig ei fam, Rhiannon, yn wraig i Fanawydan ac yn rhoi awdurdod iddo fyw ar saith gantref Dyfed. Dychwel y ddau o Loegr i Ddyfed, a phriodir Manawydan a Rhiannon. (2) Cyn darfod y wledd a oedd yn aros y ddau wr yn Arberth, dywed Pryderi ei fod yn mynd i Kent (Caint) i dalu gwrogaeth i Gaswallon, ond darbwyllir ef i orffen gwledda ac aros nes y bydd hwnnw wedi dyfod i le'n nes ato. Ychydig yn ddiweddarach â at Gaswallon i Rydychen a chaiff groeso mawr. (3) Ymhen amser ar ôl iddo ddychwelyd y mae Pryderi'n dechrau gwledd yn Arberth gyda'i wraig, Cigfa, a chyda Manaw- ydan a Rhiannon. Pan yw'r gwasanaethwyr yn bwyta, â'r pedwar allan gyda gosgordd ac eistedd ar Orsedd Arberth. Yn sydyn dyma dwrf a chawod o niwl yn cuddio pawb a phopeth. Wedi i'r niwl ddiflannu, y maent yn edrych o'u cwmpas ac yn gweld fod yr osgordd a phopeth arall wedi diflannu. "Ni welent neb rhyw ddim, na thy nac anifail na mwg na thân na dyn na chyfan- nedd, oddieithr tai'r llys yn wag ddiffaith anghyfannedd, heb ddyn, heb anifail ynddynt; eu cymdeithion eu hun wedi eu colli, heb wybod dim oddi wrthynt, ond hwy ill pedwar". (4) Ar ôl treulio dwy flynedd yn Nyfed heb weld dim ond anifeiliaid gwylltion, â'r pedwar i Loegr. Y mae'r gwyr yn ennill eu bywoliaeth i ddechrau trwy wneud cyfrwyau, wedyn trwy wneud tarianau ac yn olaf trwy wneud esgidiau. Y rheswm pam y maent yn newid eu crefft fel hyn yw fod Manawydan yn ben crefftwr ac yn hyfforddi Pryderi, a bod y ddau mor llwyddiannus