Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y NOFEL GYMRAEG Gan ISLWYN FFOWC ELIS (Clywais Islwyn Ffowc Elis yn darlledu'r sgwrs hon mewn cyfres i ysgolion Cymru, Materion y Dydd, Tachwedd 11, 1959, a bernais y byddai'n gyfaddas iawn i'w chyhoeddi yn LLEUFER. Ffôniais at yr awdur ar unwaith i ofyn am ei ganiatâd i'w chy- hoeddi, ac yr wyf yn ddiolchgar dros ben iddo am gydsynio â 'nghais. Nid yw Mr Elis yn sôn am ei nofelau ei hun, wrth gwrs: Cysgod y Cryman ac Yn Ôl i Leifior, Bfos y Cynfyd, Ffenestri tua'r Gwyll ac Wythnos yng Nghymru Fydd). PE baech chwi'n gofyn imi pa un oedd y nofel gyntaf yn yr iaith Gymraeg, mi allwn ateb, Pedair Cainc y Mabinogi. Wrth gwrs, 'fyddwn-i ddim yn hollol gywir. Nid nofel oedd y Mabinogi, ond cadwyn o storïau gwerin. Ond meddyliwch mor debyg yw'r Mabinogi i nofel mewn llawer peth: y cymeriadau byw a'r ddei- alog ystwyth, y stori afaelgar a'r sefyllfa gyffrous, y gwrthdaro rhwng unigolyn a chymdeithas, rhwng rhagfarn a barn. Yr oedd gennym rywbeth tebyg i nofel, felly, yn Gymraeg bedwar can mlynedd cyn cael dim byd tebyg i nofel yn Saesneg; yn wir, cyn bod iaith Saesneg fel y gwyddom ni amdani. Ond rhwng Pedair Cainc y Mabinogi a Daniel Owen yr oedd wyth gan mlynedd. Ychydig o ymgais a fu ar hyd y cyfnod hir hwnnw i ysgrifennu stori mewn rhyddiaith yn Gymraeg. Ond yn y cyfamser yr oedd y nofel Saesneg wedi'i geni, ac wedi tyfu i'w llawn dwf. A phan ddaeth yr adeg i rywrai ddechrau sgrifennu nofelau yn Gymraeg, yr oedd yn naturiol felly iddynt droi at y nofelwyr Saesneg am eu patrwm. Ac at rai ohonynt hwy y troes Daniel Owen. Wrth gwrs, nid ef oedd y cyntaf i geisio sgrifennu nofel yn Gymraeg. Mae Thomas Parry wedi cyfri dros hanner cant o nofelau Cymraeg a gyhoeddwyd yn y ganrif ddiwethaf, cyn i Daniel Owen ddechrau. Y gyntaf o unrhyw ddiddordeb yw Y Bardd^ neu Y Meudwy Cymreig, gan Cawrdaf, a gyhoeddwyd yn 1830. 'Does fawr o siâp nofel arni, mwy nag ar y lleill. A 'does fawr o raen ar arddull yr un ohonynt na chic yn eu deialog, ar wahân i lyfrau Gwilym Hiraethog, Bywyd Hen Deiliwr, a Llythyrau 'Rhen Ffarmwr ac Aelwyd F'Ewythr Robert.