Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU OD Gan R. BRYN WILLIAMS NI sylweddolir yn gyffredin pa mor gyfoethog yw ein tradd- odiad llenyddol yng Nghymru. Y mae gwaith y beirdd a'r cofianwyr a'r pregethwyr yn weddol hysbys, ond cyhoeddwyd hefyd lawer math arall 0 lenyddiaeth sy'n ymddangos yn rhyfedd. Ceir llu o gyfrolau ag amcan crefyddol iddynt, megis honno sy'n rhoi Hanes Marwolaeth Ddedwydd John Boltwood, o Hack- ney, gerllaw Llundain, yr hwn a gnowyd gan gi cynddeiriog. Testun od iawn, ond odiach fyth ei gynnwys. Dywedir mai deu- ddeng mlwydd a phedwar mis oed oedd John yn marw, ac eto sieryd fel hen wr pedwar ugain. Pan oedd ar fin marw, dywedodd wrth ei athro Ysgol Sul: "Yr wyf yn glaf iawn, ond ni bum erioed mor hapus yn fy mywyd. Yr ydwyf wedi fy ngolchi yng ngwaed yr Oen. Duw a dynnodd ymaith fy nghalon garreg, ac a roddodd imi galon o gig". A cheir llu o ymadroddion tebyg. Amcan y cwbl oedd dangos hapusrwydd bachgen yn marw mewn poen, a hynny am ei fod yn mynychu'r Ysgol Sul. Cyhoeddwyd hwn yn y flwyddyn 1809. Ceir ambell gyfrol sydd a gwerth hanesyddol iddi, fel yr un sy'n rhoi hanes y Colera yn Ninbych ym Mehefin 1832. Dywed i bymtheg ar hugain farw o'r haint yn Stryt Winllan yn unig. Pump o gyrff meirw yn mynd o'r un ty Nid oedd braidd i'w weled ar hyd yr heol hon ond y meddygon yn cyniwair o dy i dy, nac i'w glywed ond trwst olwynion Hers yn ôl ac ymlaen i gludo y meirw i'r monwentydd. Dywed mai ychydig oedd nifer y rhai a fynychai'r Cyfarfod Gweddïo cyn hynny, ond 'roedd y Capel Mawr yn llawn am chwech o'r gloch y bore y Sul canlynol, a buont yn gweddïo 'r Llun drwy'r dydd. A phob diwrnod yr oedd y tri chapel yn llawn o bobl yn gweddïo. "Anodd oedd gweled dyn meddw ar yr heol- ydd", meddir. Ac yn ôl y dystiolaeth sydd yma, "ar ôl y gweddïo, lleihaodd y pla". Ond y frawddeg orau yn yr hanes i mi yw hon: "A'r meddygon, wyth o nifer, yn rhoddi eu gwasanaeth yn rhad, a physigwriaeth yn ddi-gost i bawb a ddelai". Ceir cyfrolau eraill ag amcan masnachol iddynt. Teitl un o'r rhain yw Bywyd ac amserau anghyffredin Thomas Parr, yr hwn a fu fyw i fod yn /52 o flynyddoedd oed. Dywedir yn y rhagym- adrodd iddynt ddarganfod ysgrif gywrain a luniwyd gan yr hen