Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS GAN C. E. THOMAS CYNHALIWYD Cyfarfod Blynyddol y Rhanbarth brynhawn Dydd Sadwrn, Hydref 31, a chynulliad rhagorol yno, a'r Cadeirydd fel arfer mewn hwyliau da yn estyn croeso i bawb. Ail-etholwyd y Swyddogion a'r Pwyllgor Gweithiol. Wrth drin yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon Ariannol, gwelwyd fod yna wendidau ac y dylem feddwl o ddifri sut i chwyddo cyfraniadau ein Dosbarthiadau a'n Canghennau i'r Rhanbarth. Hefyd, cafwyd trafodaeth ynglyn â chyfraniadau'r Pwyllgorau Addysg Sirol i'r WEA. Sylwyd fod rhai ohonynt heb gynyddu dim ar eu cyfran- iadau ers saith neu wyth mlynedd, tra oedd rhai, ar y llaw arall, yn cyfrannu'n anrhydeddus. Y mae Swyddfa'r WEA wedi codi'r mater gyda'r Awdurdodau ac wedi darparu dadl fanwl dros ychwanegiadau. Y mae'n bleser cael adrodd fod dau o'r Awdur- dodau Addysg eisoes wedi cytuno. Hyderwn y gwêl y ddau Awdurdod arall resymoldeb ein cais a'r gwerth aruthrol a rydd y WEA i'r siroedd am eu cyfraniadau. Y mae'n bleser gweld y gwaith yn datblygu yng Nghanol- barth Cymru. Sefydlwyd Pwyllgor Cyffredinol a Phwyllgor Gweithiol yno, a Tom Bound, y trefnydd, yn Ysgrifennydd arno, a Moelwyn Williams, Aberystwyth, yn Gadeirydd. Yr ydym yn falch iawn hefyd o weld Coleg y Brifysgol, Aberystwyth yn nesáu atom mewn cyfeillgarwch a chydweithrediad. Diolch am hynny, ac edrychwn ymlaen yn ffyddiog am ffyniant llawnach eto yn y dyfodol. Pleser dihafal yw cael ymweld â'r dosbarthiadau, a'm synnu o'r newydd bob tro gan eiddgarwch yr aelodau a'r athrawon. Chwilio am Ddosbarth Talacre un noson dywyll, ac yn meddwI fy mod yn myned i ganol diffeithwch ar hyd ffordd "heb ei mab- wysiadu", yn llawn tyllau mawr a'r rheini yn byllau o ddŵr du. Palfalu ymlaen yn y tywyllwch, heb ffasiwn beth â street lighting yno, nes dyfod at adeilad, rhywbeth gwahanol i'r byngalos, a goleuni ynddo. Capel bychan pren oedd, ac yno.yr oedd y dos- barth yn cael ei gynnal; nid oedd unlle arall ar gael. Tu mewn yr oeddwn yn gallu anghofio'r cwbl am y llaid a'r pyllau dwr tu allan, wrth wrando ar y dosbarth yn trin a thrafod yn wybodus ac yn ddeallus "Gefndir y Testament Newydd". Yr oedd defn- yddio stribedau ffilm i ddangos darluniau o'r Dwyrain Canol yn help mawr iddynt.