Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Buchedd Dewi, gyda Rhagymadrodd a Nodiadau gan D. Simon Evans. Gwasg Prifysgol Cymru. 9/6. Nid yw diwygiadau a chwyldroadau byth yn llwyddo i lwyr ddifetha'r cwbl o'r hyn a gondemniant. Onid e, fe gollasid am byth bob hen ofergoel, a phob "hen bennill", a phob hen gân werin o gof y werin Gymraeg. Er cymaint o ladd a fu yn nyddiau cynnar y Diwygiad Protestannaidd ar hen arfer yr Eglwys Gath- olig o ddyrchafu'r saint yn y gwasanaethau a thrysori'r "Buch- eddau", eto fe fynnodd y werin Brotestannaidd ac Anghydffurfiol yng Nghymru gadw'n fyw rai o'r "traddodiadau" am y seintiau neu'r mynaich cynnar. Yr oedd rheswm arbennig am gadw Dewi mewn bri, canys enillasai ef Ie cynnes yng nghalon y bobl er yr unfed ganrif ar ddeg, fel y tystia'r cyfeiriadau mynych ato yng ngwaith y beirdd. Ac yn rhyfedd iawn, yng nghyfnod y Diwygiad Methodistaidd ei hun y troes Gwyl Ddewi-yr hen wyl eglwysig-yn wyl gened- laethol i Gymru gyfan. Yn wyneb hyn oll, y mae braidd yn hynod na fuasai rhywun cyn hyn wedi ymgymryd â golygu Buchedd Dewi yn y dull sydd yn awr yn gyffredin. Argraffwyd hi, yn wallus iawn, gan W. J. Rees yn Lives of the Cambro-British Saints yn 1853; ac yna yn 1894 cyhoeddwyd Llyfr Ancr Llanddewibrefi (yn cynnwys Buch- edd Dewi) gan John Morris-Jones a John Rhys. Dechreuodd y gyfrol olaf hon gyfnod newydd yn hanes golygu testunau Cym- raeg Canol. Erbyn hyn, y mae gwybodaeth o hanes yr iaith a'i chystrawen wedi cynyddu'n ddirfawr, a phriodol iawn yw mai ysgolhaig ifanc, a ysgrifennodd lyfr campus ar ramadeg Cymraeg Canol, a ymgymerodd yn y dyddiau diwethaf hyn â golygu Buchedd Dewi o'r newydd. Yn y Rhagymadrodd ceir crynhoad clir a hylaw o'r hyn sy'n hysbys am y pynciau canlynol: Dewi Hanes; Cyfeiriadau Cynnar at Ddewi; Rhigyfarch; Fersiynau o'r Fuchedd; y Testunau Cym- raeg. Rhydd Simon Evans sylw i'r hyn a draethwyd ar bynciau perthnasol gan nifer helaeth o ysgrifenwyr diweddar, ac y mae yma ddigon o dystiolaeth i'w wybodaeth ef ei hun a'i graffter yn ei astudiaethau, ac i aeddfedrwydd ei farn. Gweodd y ffeithiau a'r sylwadau a'r damcaniaethau ynghyd i lunio ymdriniaeth wir ddiddorol a darllenadwy. Wrth draethu ei farn ei hun, y mae'n