Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llwyd, t. xxv; i Padrig, t. xxii. Fel rheol y mae'n treiglo, e.e., at Ddewi am Ddewi, t. xvi; gan Beulin, t. xxii; ac wrth reswm, rhaid caniatáu ambell eithriad megis o Gâl, t. xii. Gall Coleg y Brifysgol, Dulyn, fod yn wir falch o'r cyfraniad nodedig hwn i ysgolheictod Cymreig a Cheltig gan ei Athro Cymraeg. Bydd pawb a ymddiddora yn iaith a llenyddiaeth yr Oesoedd Canol yng Nghymru dra dyledus iddo. Dylid diolch hefyd i Wasg Gomer, Llandysul, am argraffwaith da a gofalus, ac i Wasg Prifysgol Cymru am gyhoeddi cyfrol mor sylweddol am bris rhesymol iawn. STEPHEN J. WILLIAMS (1) Cerddi'r Ymylon, gan J. Roderick Rees. Gwasg Gee. Clawr caled, 8/6; clawr ystwyth, 5/ (2) The Story of Wales, gan T. P. Lewis. Llyfrau'r Dryw. Gydag Atodiad ar hanes Sir Benfro, 10/6; heb yr Atodiad, 8/6. (3) Arwyr Affrica, gan Griffith Quick. Llyfrau'r Dryw. 6/6. (1) Haedda'r gyfrol hon groeso gwresog, mewn ysgol a choleg yn ogystal ag ar aelwydydd lle y parheir i ddarllen a mwynhau llyfrau Cymraeg. Haedda'r awdur hefyd ei longyfarch yn galon- nog, nid yn unig am i'r rhan fwyaf o'r gyfrol hon ennill y wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni (1957) am gyfrol o "Gerddi Gwreiddiol", eithr hefyct am ansawdd ei waith a'r graen sydd arno. Nid yw pob gwaith buddugol yn teilyngu cymaint clod â'i gilydd, fel y gwyddys, ond yn sicr y mae'r gyfrol hon yn llawn deilynguY feirniadaeth ganmoliaethus a gafodd gan y beirniad, J. M. Edwards. Ynddi ceir cyfuniad hapus o'r bardd gwlad ar ei orau a'r llenor crefftus. "Su a sawyr" caeau a ffridd- oedd Ceredigion a geir yma, ynghyda geirfa gwladwr sy'n hen gynefin â thermau crefft amaethwyr ei fro. Ychydig o nodau sylfaenol sydd i gerddoriaeth, ond aneirif yw'r posibiliadau wrth eu trin a'u cyfuno yn nwylo cerddor cain. Felly, hefyd, ychydig yw'r themâu sylfaenol ym myd barddon- iaefh, a cheir beirdd pob oes yn taro'r un nodau; er hynny, lle bo'r gwir fardd, bydd y cyfuno a'r cordio ar ryw newydd wedd o hyd. Mesur o lwyddiant Mr Rees yw iddo fedru canu cymaint ar hen themâu adnabyddus (megis Gormes Amser, Newid, Breu- der Einioes, etc.) gyda'r fath ffresni a melyster. I nodi enghraifft neu ddwy,-O ddarllen y gerdd, Yr Hwyr (t. 70), gwelir mai'r