Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

llythrennol o'r Saesneg, ac y mae'r llyfr yn frith o ymadroddion anghymreig. Am y storïau, y mae deunydd storÏau antur ac arwr- iaeth yn rhai ohonynt. Efallai mai anffodus oedd i'r awdur ymdrechu mor galed i "ddangos y wers", yn lle gadael i'r storïau lefaru drostynt eu hunain. D. M. ELLIS (1) Gwreiddiau, gan Gwenallt. Gwasg Aberystwyth. 7/6. (2) Gorffen Canu, gan Llewelyn Jones. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. 3/6. (1) Dyma'r adolygiad mwyaf aneswyth a ddaeth i'm rhan i'w lunio. Nid yn unig y mae Gwenallt yn fardd ag apêl arbennig ganddo i mi, ond tybiaf hefyd ei fod yn un o'r ychydig y gellir bod yn gwbl sicr y deil ei dir tra pery'r iaith. Ond fe'm siomwyd yn y gyfrol hon. Nid yw'r siomiant hwn ynddo'i hun yn brawf o ddim am y gwaith. Ynddo'i hun nid yw ond prawf fy mod i'n bersonol yn disgwyl rhywbeth gwahanol neu amgenach. Gallai disgwyliad felly fod yn gyfiawn neu yn ddigyfiawnhad. Y peth cyntaf i'w wneud felly yw cloriannu'r hyn a ddisgwyliwn a barnu a ellid ei gyfiawnhau. Ar bwys yr awdlau, Cnoi Cil, Ysgubau'r Awen, ac Eples, disgwyliwn gyfuniad prin o grefft a grymuster gweledigaeth. Ar ochr y grefft, i fanylu, gellid disgwyl cael yr ansoddair cadarn, y gymhariaeth neu'r trosiad cyrhaeddgar, y rhuthmau mewn glân briodas â'r cynnwys, a'r cyfan mewn undod byw sy'n tyfu y tu mewn i'r gerdd ac yn ffrwytho yn nychymyg y darllenydd neu'r gwrandawr. O ran gweledigaeth, dyma'r bardd a fedrodd weld gwareiddiad Ewrop mewn draenog, a'r gwareiddiadau yn ymdaith yr "anifail bras". Hwn hefyd yw'r bardd a fedrodd ysgwyd dyn i'w sylfeini gyda'r ffrewyll honno o soned-Pechod. Ac efo a'n gwnaeth yn anesmwyth gan wirionedd gweledigaeth ar y Deheudir diwydiannol, ac yn gynnes gan edmygedd a serch at ddynoliaeth ddofn y trigolion. Nid wyf yn sicr o bell ffordd beth sydd wedi digwydd i'r pethau hyn yn y gyfrol ddiwethaf hon. Yr argraff gyntaf a adawyd arnaf oedd fod Gwenallt wedi mynd i efelychu Gwenallt a bod yma ail-adrodd hen weledigaethau yr un bardd. Ond gellid cyfiawnhau hynny, i raddau, beth bynnag, trwy ddweud mai cysondeb gweledigaeth ydyw hynny. Ymhellach, nid oes gennym hawl i gwyno ar bwys y ffaith fod yma gymaint o sôn am saint ac Eglwys a chrefydd. Os yno y gorwedd gweledigaeth y Bardd,