Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLWYBRAU'R FYNWENT Dirwyn heb neb yn malio; Pa ddiben malio mwy? Tros bentwr ein blynyddoedd, Cyson y troellant hwy. Closio bob un tua'r llain ddi-nwyd A gwthio'n filain dan y glwyd. Ond rhoed pob troed i'w tramwy Heb hoe ar dir y byw, Nes chwilio gwal i orffwys Yng nghysgod gwyrdd yr Yw. Angau a geidw'n llwybrau'n goch Lle cwsg y meirw'n swn y gloch. Ar y llinell hon, mi gredaf i, y gorweddai gwir ddawn Llywelyn Jones, ac y mae'n arwyddocaol mai trwy ei dilyn hi yr enillodd goron y Brifwyl yng Nglynebwy. Eithr, yn anffodus, prin iawn yw enghreifftiau cyffelyb yn y gyfrol hon. Gresyn na losgasai ei gerddi eisteddfodol, a rhoi o'r neilltu at eu cyhoeddi y cerddi a luniodd er eu mwyn eu hunain yn unig. Yn olaf, pair ofid i mi ei bod yn rhaid arnaf fynegi barn ar y llinellau hyn a marwolaeth ddisyfyd y bardd mor ddiweddar yn y cof. HARRI GWYNN Llyfr Gwen a Gwyn, gan Mary Vaughan Jones, darluniau gan W. Mitford Davies. Llyfrau'r Dryw. 8/6. Ail Lyfr Posau'r Plant, gan J. Evans Jones, darluniau gan Hywel Harries. Llyfrau'r Dryw. 3/ Trydydd Rhigymau Rhif, gan Elizabeth Thomas, darluniau gan Nefyl Williams. Gwasg y Brython. 2/ Llongyfarchiadau i blant Cymru, ac i'r cyhoeddwyr ar eu gwaith yn darparu llyfrau mor ddeniadol ar eu cyfer.