Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU Cyf. XVI HYDREF 1960 Rhif 3 NODIADAU'R GOLYGYDD DYWEDAIS yn Rhifyn yr Haf y carwn weld gwladoli'r cyflen- wad dwr yn y wlad hon. Y mae hwn yn fesur angenrheidiol iawn, ac y mae'n lled debyg y daw i weithrediad cyn pen llawer o amser, un ai o dan Weinyddiaeth Lafur neu o dan Weinydd- iaeth Dorïaidd. Gallai ddyfod yn fuan, a Chymru'n amharod ar ei gyfer, heb gymaint â Bwrdd Dwr Cymreig i ofalu am ei budd- iannau. Y mae mawr angen am grynhoi adnoddau dwr y wlad o dan un awdurdod, neu o dan nifer fechan o awdurdodau rhanbarthol, er mwyn darparu fod cyflawnder ohono ynghyrraedd pawb, a'i fod yn cael ei rannu'n deg rhwng y naill ardal a'r llall. Ymgiprys di-reol ydyw-hi ar hyn o bryd, a'r trecha'n treisio a'r gwanna'n protestio yn ddigon aneffeithiol, fel y gwnaed yn Nhryweryn. Pe gwladolid y cyflenwad dwr, y mae'n bosibl y byddai dwr Cymru yn dyfod yn rhan o'r gryd Prydeinig, fel ein cyflenwad trydan. Nid oes dim sydd yn hanfodol annheg yn hynny; y mae'n iawn inni rannu ein hadnoddau â'n cymdogion, a hwythau â ninnau, yn ôl fel y bo'r angen. Ond, pe rhoddid dwr Cymru o dan lywodraeth un corff cenedlaethol Prydeinig, gobaith gwan fyddai am gyfiawnder i Gymru heb fod ganddi un corff canolog Cymreig i ymladd drosti. Heb hynny, gallai'r Awdurdod Dwr Prydeinig wahanu Gogledd Cymru oddi wrth y De, a'i chysylltu wrth rhai o siroedd Lloegr, fel y gwnaeth yr Awdurdod Trydan; byddai Gogledd Cymru wedyn yn fwy darostyngedig i Lerpwl nag y bu erioed. Petai gennym Fwrdd Dwr Cymreig cryf mewn bod eisoes, y mae'n debyg y gellid arbed hyn. Ond rhaid symud ymlaen ar unwaith-nid gwrthdystio pan fydd yn rhy hwyr. Pan blannwyd Gwersyll Butlin yn Eifionydd, fel plannu rhan o "South Shore" Blackpool drwy orfodaeth yng nghanol Strat- ford-on-Avon; pan reibiwyd tir Tryweryn, a gwasgaru darn o'r gymdeithas Gymraeg i'r pedwar gwynt, er mwyn i bobl Lerpwl allu gwneud eu tref yn llawer mwy nag y mae; a phan benodwyd Cadeirydd i'r Cyngor Darlledu na fedrai ddim ond un o ddwy iaith Cymru-fe brotestiwyd digon gan rai o brif arweinwyr y