Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYD JOHN KEATS GAN D. TECWYN LLOYD MAE gen i syniad fod a wnelo oed gryn dipyn â mwynhau barddoniaeih; gall dyn dreulio holl aeafau ei oes mewn dos- barthiadau a chyrsiau ar "werthfawrogi" barddoniaeth; gall astudio llyfrau dirifedi a darllen gweithiau'r beirdd hyd ddi- flastod; ac eto, er y cwbl i gyd, ni all fwynhau'r gweithiau hynny mewn gwirionedd. Gall ddweud ei fod yn eu mwynhau, a thrwy fynych hunan-berswâd gall gredu yr hyn a ddywed. Ond cyn mynd ymhellach rhaid prysuro i ddweud nad pob matn o farddoniaeth a olygaf wrth y gosodiad uchod, ac yn ail, nid pob math o fwyniant a olygaf ychwaith. 'Rwyf yn meddwl yn arbennig am farddoniaeth Keats a mwynhau hwnnw: bardd- oniaeth gŵr ieuanc yr oedd ei synhwyrau wedi eu blaenllymu i'r eithaf a'i glust wedi ei theneuo i ruthmau a miwsig geiriau ac ymadroddion tu hwnt i neb arall o'i gyfoeswyr. Bardd a ymdeimlai ag awyrgylch a natur gyda'r un tanbeidrwydd gwresog, byw, sy'n llwydo'n atgof wedi i'r rhelyw ohonom groesi'r deg ar hugain oed; y synwyrusrwydd a gleddir o dan haenau o ddoeth- ineb a gwybodaeth, cymedrolder ac undonedd y busnes beun- yddiol o fyw ac o fod yn gyfrifol, ac o fynd yn hyn. Gallwn barhau i fwynhau barddoniaeth felly os cafodd afael arnom pan oeddym yn yr oed iawn, dyweder rhwng pymtheg ac ugain. Ond mwynhad atgof ydyw wedyn; atgof o'r amser pan oeddym yn byw'r farddoniaeth, pan oedd byd y bardd yn fyd i ninnau; pan symudem trwy ei goedwigoedd tywyll, deiliog, a thrwy goridorau ei gestyll; pan welem liwiau gwydrau ei ffenestri yn banopli ar gnawd ei gariadferch ar noson loergan rynllyd yn Ionawr. Erys yr atgof am y pethau hyn a'r mwynhad o'u hatgofio, ond nid yr un peth yw hynny â'r mwynhad o'u byw a'u cael yn fwy real na'r bywyd a oedd o'n cwmpas bryd hynny. Wrth fynd heibio, mi dybiaf hefyd mai hyn yw profiad y rhai hynny a fu byw trwy ddiwygiad crefyddol megis un 1904. Yn ôl popeth a glywais ac a ddarllenais am y digwyddiad hwnnw, ni allaf osgoi ei symio fel dylifiad o brofiadau synhwyrus, arbennig Gymreig, uwchlaw popeth arall. Byw synhwyrus, yn anad dim arall, oedd y canu lleddf, yr ymollyngdod difyfyr mewn llif o eiriau, yr hwyl a'r tiwnio. A phobl ieuainc oedd y pentewynion.