Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

chwilio wofiadau-y rhai gwir a'r rhai gwneud-serchiadau, hiraethau, croesdyniadau, gwynfydau a gorhoffedd ei ddisgyblion. Heb wybod beth yw byd mewnol ei wrandawyr, ni all obeithio rhoi byd y bardd iddynt. Nid trwy esbonio gramadeg a thechneg, mydrau a mesurau, i ddechrau y mae trafod gwaith fel sydd gan Keats a beirdd tebyg iddo. Ond cyn i hyn o lith ymffurfioli yn drafodaeth addysgiadol ronc a bradychu'r perygl mai crysbas du llaes y tiwtor ac nid mantell fenthyg cerdd ofydd sydd gan yr awdur am ei gefn, cystal fyddai tewi a'i gadael hi yn fan'na. Y mae deial ar lawnt Coleg y Brifysgol, Bangor, o flaen drysau mawr Neuadd Prichard-Jones, ac arno'r geiriau hyn wedi eu torri ar ei bedair ochr: HED AMSER! MEDDI NA! ERYS AMSER DYN Â Mewn ysgrif yn Y Drysorfa, Mehefin 1957, awgrymodd y golyg- ydd, Huw Llewelyn Williams, mai cyfieithiad o linellau gan y bardd Saesneg, Austin Dobson, oedd yr arysgrif hon. Y mae gan y bardd Ffrangeg Ronsard gân sydd yn dechrau: Le temps sfen va, s'en va, ma dame\ Las! le temps non; mais NOUS nous en allons\ Yn ei lyfr, Collected Poems, geilw Dobson un o'i gerddi, A Paradox of Time, yn A Variation on Ronsard: fe gynnwys nifer o benillion chwe llinell yn odli aab ccb. Dyma'r llinellau cyntaf: Time goes, you say? Ah no\ A las, Time stays, we go. Y mae atalnodi'r arysgrif ar y deial braidd yn gamarweiniol. O'i argraffu ar bapur, fel hyn yr atalnodem ef "Hed amser", meddi? Na; erys Amser. Dyn â". A all rhywun ddweud pwy oedd y cyfieithydd Cymraeg, a pha bryd y torrwyd y llinellau ar y deial?