Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DEWIS ARLYWYDD GAN J. ALUN THOMAS PAN ddaeth yr Ail Ryfel Mawr i ben bymtheng mlynedd yn ôl bellach, cafwyd fod y byd cyfan wedi ei rannu, fel petai, rhwng dwy ymerodraeth fawr, sef Rwsia i'r dwyrain a'r Unol Daleithiau i'r gorllewin, a gwyddai'r craff fod tynged a dyfodol y byd yn dibynnu ar gydweithrediad rhwng y ddau Allu hyn. Bydd y gair "ymerodraeth" yn aml yn cyfleu'r syniad am "deyrn- lywodraeth", ac efallai mai gair anghywir ydyw hwn i ddisgrifio gwlad werinol. Canys gwlad werinol, yn yr ystyr boliticaidd, beth bynnag, ydyw'r Unol Daleithiau. Y mae i'w gweriniaeth ei gwen- didau, wrth gwrs (yn hyn o beth y mae fel pob gwlad arall), ac ar brydiau bydd rhyw elyn rhyddid fel Joseph McCarthy yn dyfod i'r amlwg yno. Ond tros ysbaid fer y bydd y fath bobl yn ennill dylanwad yn y wlad, oherwydd y mae'r syniad o ryddid wedi gwreiddio'n rhy ddwfn yno i neb allu ymosod arno yn llwyddiannus. Ar y cyfan, felly, gwlad y sefydliadau rhydd- gwasg rydd, undebau llafur rhydd, eglwysi rhyddion, ac ethol- iadau rhydd, a gwlad hefyd lle y sicrheir rhyddid personol i'r dinesydd-ydyw America, a hynny ar waethaf ei ffaeleddau. Ond os ydyw hi'n wlad werinol y mae'n bwysig iawn i ni sy'n byw mewn gwlad fechan sylweddoli fod yr Unol Daleithiau'n gyfundrefn ymerodraethol, am ei bod gymaint ei maint. Yn wir, y mae hi rywfodd yn fwy na gwlad! Cynnwys wyth a deugain o daleithiau, a da ydyw cofio mai'r enw Saesneg ar y rhai hyn ydyw "gwladwriaethau", sef States, canys y mae nifer ohonynt yn fwy eu maint bob un na Phrydain Fawr. Ac os cywir ydyw sôn am "farn y wlad" ym Mhrydain, hollol gamarweiniol fyddai tybied fod rhywbeth y gellid ei alw yn "farn America". Y mae gwahan- iaeth barn ddybryd ar faterion cymdeithasol a gwleidyddol rhwng trigolion taleithiau'r dwyrain a'r gorllewin, y gogledd a'r de. Am hynny, bydd Americanwyr yn sôn am farn y Gorllewin, barn y Gorllewin Canol, barn y De, y Gogledd a'r Dwyrain, ond ni soniant byth am farn America. Gwlad fawr ei maint, a hefyd gwlad fawr a chyfoethog ei hadnoddau, a gwlad niferus ei phoblogaeth, ydyw'r Unol Daleith- iau. Yn y gorffennol, un o'i thraddodiadau cryfaf a phwysicaf oedd y traddodiad o fyw ar ei phen ei hun. Nid oedd am wneud cytundebau, ac ymyrryd ym musnes Ewrop. Nid oedd chwaith yn