Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SGLODION O ADDYSG WLEDIG GAN GWILYM R. TILSLEY FLWYDDYN neu ddwy yn ôl, anfonais ychydig o gynhyrchion aelodau Dosbarth Llanrwst i LLEUFER gan eu galw yn Naddion y Cynganeddwyr. Pethau go fân yw naddion, ac, er mai fi yw'r athro, yr wyf yn ddigon rhyfygus i gredu fod gwaith y beirdd eleni yn frasach, ac yn haeddu ei alw yn "sglodion". Collwyd rhai aelodau o'r Dosbarth, ond cafwyd eraill yn eu lle, a threuliasom dymor digon dedwydd a diwyd. Tymor o ymarfer oedd hwn yn bennaf, ac wrth wrando ar feirniadaeth ein gilydd, dysgasom osgoi rhai gwallau a gwendidau crefft a gramadeg. Cawsom gryn ysbrydiaeth un noson trwy ymweliad C. E. Thomas, a ddangosodd inni werth sylfaenol y pethau yr ydym yn ceisio eu gwneud mewn cwmnïau fel hyn, a'n hannog i anfon i LLEUFER eto eleni beth o waith y Dosbarth. Diolchwn iddo am ei gefnogaeth a'i eiriau caredig. Rywdro yn ystod y Tymor, gofynnais i'r beirdd lunio englyn i'r Dosbarth, a dyma gynnig neu ddau i gynnwys enwau'r holl aelodau mewn un englyn: Abla' Jones, a Dybliw Je, — y wraig hon (gan bwyntio ati) Rôg Huw, Sam a Tilsle, Dai, Meirion, Fôn a finne, A Phernant-teirant, yn'te?-Marged Mochnant. Dybliw Je, yn'te? Huw T.-a Misys Wms, Huw a Sam a Dafi, Fôn a Meirion a'u miri, Pernant, M. Mochnant, a mi. —Yr Athro. A dyma'u grwpio wrth eu cyfenwau: Dau Wilias yma'n del aid-a chwe Jôs Of-côs, y cocosiaid; Dau hen ben yr Oweniaid, A Thilsli'n rheoli'r haid. — Marged. Naturiol iawn oedd cychwyn y Tymor y llynedd ag englyn i Haf gwlyb 1958, ac wele rai o'r ebychiadau a gafwyd Yn y baw, a'r glaw'n glynu, — yn y dymps, Yn damp ac yn rhynnu, I'r bwgan pwy all ganu? — Rhyw hen haf oer iawn a fu. —Meirion.