Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Anhepgor i Gynghorydd-ydyw hon, A'i doniau dihysbydd; A chwt neis i ymgeisydd Y Sêt Fawr yn siwtio fydd.—Meirion. Lle heidia'r pryfed llwydion,-e fachwyd Ar y fuwch hir gynffon, Wrth chwifio a hwylio hon Hi anadla'n fwy bodlon.—H.T.J. Un denau, a blew amdani,-yn gron Ac yn gryno drwyddi; Ystyriwch ei harddwch hi, A swydd mor atgas iddi.-Dafydd. Deorwyd lliwiau'r Dwyrain;-fe'u hasiwyd Ag enfysau mirain, I geriwb blethu'n gywrain I baun y Fron gynffon gain.-Pernant. Llawenydd inni yw fod cyn-aelod o'r Dosbarth, Gwyndaf Jones, Llangwm, wedi llwyddo yn Arholiad yr Orsedd yn 1958, a bod aelod ffyddlon aralL>D. O. Jones (Dafydd), Y Padog, wedi cyf- lawni'r un gamp yn 1959. Y mae'n debyg fod y rhan fwyaf ohonom yn gynefin â gwneud un camgymeriad arbennig wrth gopïo, sef neidio oddi wrth ryw air at yr un gair yn is i lawr y ddalen, a thrwy hynny adael darn o frawddeg neu frawddegau allan. Digwyddodd hyn i blentyn yn yr ysgol unwaith. Rhoeswn wers i 'nosbarth ar Cerdd yr Hen Chwarelwr W. J. Gruffydd, ac yna'i hysgrifennu ar y'bwrdd du i'w chodi i'w llyfrau. Yn lle copïo'r ddwy linell a ganlyn yn iawn: Carodd ferch,y bryniau ac fe'i cafodd, Magodd gewri'r bryniau ar ei lin; ysgrifennodd un plentyn: Carodd ferch y bryniau ar ei lin.