Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWTA FILLTIR Yr Hen Gantor, er cof am Walter S. Jones (Gwallter Llyfnwy), Llanllyfni, ydyw un o gerddi coffa gorau R. Williams Parry. Yr oedd Gwallter wedi ei nwyo'n ddrwg yn y Rhyfel Mawr Cyntaf, ac yn derbyn pensiwn llawn; chwanegai ato drwy sgrifennu i'r papurau Cymraeg, a'u cynrychioli yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chynulliadau eraill. Yr oedd y nwy wedi bwyta ei sgyfaint, ac yr oedd gwrid y diciâe ar ei ruddiau, ac yntau'n gwybod nad oedd ganddo lawer o flynyddoedd i fyw. Yr oeddwn yn ei adnabod, ac yn ei hoffi a'i barchu'n fawr. Cymeriad annwyl ydoedd, a chymeriad nodedig o gymdeithasgar; glân ei fuchedd hefyd, ond y mae Williams Parry wedi dweud wrthym nad oedd yn "ddirwestwr glew". Ni chlywais erioed sôn amdano'n feddw, ond gallaf ddychmygu ei weld yn un o dafarnau Pen-y-Groes ar Nos Sadwrn, yn mwynhau'r gwmnïaeth rownd y bwrdd gyda rhai o'i gyfeillion. Ac wedi troi allan, y gwmnïaeth mor felys ganddo nes ei fod yn gyndyn i'w thorri, ac wynebu'r daith adre i Lan- llyfni yn llesg ac yn unig. "Dowch i 'nanfon-i, hogia; alla-i ddim mynd f'hun, wochi. Tydi-hi ddim ymhell; rhyw gwta filltir ydi- hi". A hwythau'n mynd, ac efallai'n troi i mewn, a'r gwmnïaeth yn para am oriau. Yn ei gerdd, cawn Williams Parry yn cofio Gwallter yn cell- wair yn ddewr am ei ddiwedd a oedd yn agosáu, ac yn gofyn i'w gyfeillion ddyfod yn gwmni iddo ar ei daith i'w gartre olaf: "A ddowchi i'm danfon ar y daith Tuag adra bod ag un? Er nad yw'r ffordd i'w rhodio'n faith Ni fedraf fynd fy hun. Oddi yma i'r Hendra, lle mae'r oed, Rhyw gwta filltir sydd". Ie, "rhyw gwta filltir" sydd o waelod Pen-y-Groes i ganol pentre Llanllyfni, lle'r oedd Gwallter yn byw; ond nid oes fawr fwy na chwarter milltir o'i gartre i fynwent Hendreforion, Ue y claddwyd ef. Y mae cyfeiriad Williams Parry at y "gwta filltir" yn profi i mi ei fod yn dychmygu Gwallter yn atgoffa i'w gyfeillion yr amI droeon y buont yn ei ddanfon "tuag adra" o Ben-y-Groes i Lanllyfni, ac yn erfyn arnynt wneud yr un gymwynas ag ef am y tro olaf..