Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yr haul. Daliai Daniel Rodney Aaron i edrych i fyny ato, a syndod yn y llygaid mawr. Craffodd Jac Glas yng ngwaelod un o'i bocedi trowsus, a daeth â stwmp sigarèt allan rhwng ei fys a'i fawd. 'Roedd y pen lle bu'r tân yn ddu o hyd, a'r pen arall wedi sychu'n goch-felyn. Rhyw hanner modfedd oedd rhwng y ddau ben. "Dos i nôl matsian imi, Win". "Do's yna 'run". "Tyd â tân ar bapur 'ta". Daeth Winni â thân iddo, a thynnodd yntau yn y stwmp nes llosgi'i wefusau. Yna poerodd ef dros y wlad. Trodd ar ei sawdl ac aeth i mewn i'r ty. "Ma hi'n ddydd Mercher heddiw, yn'tydi?­rhaid imi fynd i'r lle dôl yna i seinio. Lle ma nghôt i dwad?" Ar ganol llawr Nymbar 7, Hendre Ruffydd, safai bwrdd a'i wyneb yn orlawn. Yn erbyn y mur yr oedd cestar-drôr, a'i thop hithau yn orlif o bob math o bethau. Drwy hanner uchaf yr unig ffenestr gwnâi golau dydd ymdrech deg i ddod i mewn. 'Roedd gwydr yr hanner isaf wedi mynd, a phren triphlyg yn ei Ie. "Lle ma nghôt-i, Win?" "Dwn i ddim". Daeth wyneb i'r golwg o dan y bwrdd, a dau lygad mawr glas, yn union fel rhai Daniel Rodney Aaron, yn syllu'n syn i fyny ar Jac Glas. Fel ei frawd, 'roedd gwallt Leslie Anthony wedi cacennu. "Welist-ti nghôt-i, 'r diawl bach?" Yn flwydd oed, a heb ddysgu cerdded, cropiodd Leslie Anthony ar ei bedwar ar draws llawr llechi'r gegin a swatiodd yn y gongl bellaf. Gafaelodd Jac Glas yn ei gôt oddi tan y bwrdd a rhoddodd hi amdano, yna dechreuodd fynd drwy'i phocedi. "Am be rŵt ti'n chwilio?" "Y cardyn dôl — cardyn melyn! ­Go dam Yr hen blant 'ma eto wedi bod yn hel 'i bacha!" "Ydi'n rhaid iti 'i ga'l o?" "Ydi! ­Ma' na un hen foi yn y lle dôl yna sy'n cwencian bob tro y byddai'n mynd yna heb y cardyn melyn. Hen gythral ydi-o "Wa'th ti amdano fo!— Deuda wrtho fo yn bod ni yn sbring clinio a bod popath ar draws 'i gilydd, ac y caiff o'i weld-o 'r wsnosnesa' Stopiodd Jac Glas ei chwilota. Safodd ar ganol llawr y gegin,