Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BWYD TUNIAU GAN DAFYDD ORWIG JONES BYDD pob gwraig ty wrth agor tùn yn ei chegin eleni yn dathlu can mlwyddiant a hanner y diwydiant canio bwyd. Yn 1810 gwelodd Nicolas Appert, cogydd o Ffrancwr, y gellid cadw bwyd ar ôl ei gynhesu, mewn jariau gwydr. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach trawodd Peter Durand, masnachwr o Lundain, ar yr un syniad, a defnyddio tuniau, gan eu bod yn dal triniaeth arw teithio a storio'r oes honno yn well. Trosglwyddodd Durand ei syniad i Bryan Donkin, masnachwr papur o Bermondsey, a Donkin a anrhydeddir fel sefydlydd y ffatri ganio bwyd gyntaf yn y byd. Daeth y Llynges yn un o'i gwsmeriaid gorau, a defnyddiwyd ei gynnyrch gan y Capten William Edward Parry ar ei ymgyrchoedd i geisio llwybr i India drwy rewlifoedd y Gogledd. Canlyniad hyn oedd mwy o amryw- iaeth ym mwyd y morwyr, a diflaniad clefyd cyffredin y môr, sef sgyrfi. Profwyd tùn o gig llo a fu gyda'r Capten Parry tua 1820 yn ddigon da i'w fwyta ymhen canrif a mwy wedi hynny Er i'r arloeswyr weld gwerth y syniad, yr oedd pwysigrwydd presennol y diwydiant bwyd tu hwnt i'w breuddwydion gwylltaf. Dim ond £ 6,000 a wariwyd ar fwyd tùn yn 1817; heddiw y mae'r swm tua £ 5,000,000,000. Y mae'n dibyniaeth ni ar fwyd tùn wedi cynyddu'n enfawr er 1959. Heddiw, bwytawn bum gwaith cymaint o lysiau ag a wnaem yn 1939, tair gwaith cymaint o gig tùn, a phedair gwaith ar ddeg cymaint o gawl tùn. Bellach, bydd pawb yng ngwledydd Prydain ar gyfartaledd yn bwyta 70 pwys o fwyd tùn y flwyddyn. Mae'r term "bwyd tùn" wedi datblygu'n un eang iawn erbyn hyn. Mae'r gath a'r ci mor ddibynnol ar y tùn â'u meistri, ac y mae'r diwydiant bwyd tùn i anifeiliaid anwes yn werth £ 25,000,000 ym Mhrydain. Cwrw, diod feddal, bwyd babi, ffrwythau, pwdin, cawl, pasteiod cig-dyna rai yn unig o'r cynhyrchion sy'n rhoi hwb sylweddol i'r diwydiant. Ar wahân i'w effaith ar safonau byw drwy'r byd, y mae gan ddiwydiant canio bwyd effaith cryf ar y diwydiant dur a thun-