Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

plat. Yng Nghymru, wrth gwrs, y cynhyrchir 99 y cant o holl dunplat Prydain, sef 1,100,400 tunnell 0 1,103,500 tunnell, a'r cewri yw ffatrïoedd Trostre, Felindre a Glyn Ebwy. Defnyddir dros 300,000 tunnell o dunplat y flwyddyn gan ryw 350 o gwmnïau canio yng Ngorllewin Prydain, ac y mae'r allforion yn bur syl- weddol. Gall mwyn tùn o Malaya ddyfod i Lyn Ebwy i'w droi'n dunplat a dyfod yn ôl drachefn o Malaya yn duniau pineapple. Nid cyflenwad o dunplat yw unig angen y diwydiant canio, wrth gwrs, a rhaid cynllunio i gael ffrwythau a llysiau ffres yn rheolaidd drwy'r flwyddyn. Rhoddir contract amser hir i fferm- wyr ar hyd a lled Prydain, a gofala arbenigwyr am gynnydd y cnydau, ac am gadw record manwl o'r dyddiau aeddfedu a chyn- aeafu. Sicrha hyn ddylifiad esmwyth-reolaidd o'r cynnyrch i'r ffatrïoedd canio. Rhaid trefnu'r proses canio ei hun yn ofalus iawn hefyd, ac y mae'n un o'r diwydiannau mwyaf modern ym Mhrydain, ac ambell beiriant yn gallu cynhyrchu 800 tùn y funud. Pan gychwynnodd Peter Durand a Bryan Donkin ar eu menter ganrif a hanner yn ôl, ni allent ragweld datblygiad fe1 hyn. Bwriedir codi cofeb i'r ddau eleni, ond y mae'r gofeb fwyaf addas mewn bod eisoes-diwydiant modern sy'n bwydo miliynau o bobl y byd. (Trwy ganiatâd caredig y BBC) Un tro, rhoddwyd ceffyl wyth oed i redeg mewn ras. Gan nad oedd erioed wedi rhedeg ras o'r blaen, yr oedd y betio yn ei erbyn yn 80 am 1. Ond ef a enillodd y ras o ddigon. Ar y diwedd, daeth rhai o'r swyddogion at y perchennog, yn flin ac yn amheus iawn. "Pam na fuasech-chi wedi rhoi'r ceffyl yma i redeg mewn ras o'r blaen?" gofynasant iddo. "Mae-o gennoch-chi ers wyth mlyn- edd". "Wel, ydi", atebodd yntau, braidd yn swil; "ond, a deud y gwir ichi, 'doeddem-ni ddim yn gallu i ddal-o nes oedd-o wedi troi saith"O'r Readers' Digest. Y gŵr bonheddig ydyw'r sawl sy'n cyfrannu mwy i'r stoc gyffredin nag a gymer allan ohoni. — Bernard Shaw.