Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDI CYMRAEG DIWEDDAR GAN J. T. JONES (1) Aicen Myrddin. Llyfrau'r Dryw. 8/6. (2) Tros f'Ysgwydd, gan Huw T. Edwards. Gwasg Gee. 5/ (3) Ym Mysg y Drain, gan R. Gerallt Jones. Gwasg Gee. 5/ (1) Antholeg, ddeniadol ei gwedd, o waith beirdd cyfoes Sir Gaerfyrddin, a'r gyntaf yng nghyfres "Barddoniaeth y Siroedd", yw'r gyfrol hon, gyda Rhagair gan Emlyn Evans, rheolwr Gwasg y Dryw. Galwodd ef ynghyd y cyfeillion hynny a fu'n cynrych- ioli'r sir yn "Ymryson y Beirdd y BBC", i ddarllen y cerddi a anfonwyd i mewn, ac i ddewis y rhai addasaf i'w cyhoeddi. Ymddengys fod gan feirdd y sir bob ffydd yn y panel dewis, a bod y cynllun, gan hynny, yn llwyddiant. Diddorol fydd sylwi a lwyddir cystal, ar yr un llinellau, mewn siroedd eraill. Yn hanes Cymru, Shir Gâr yw bro'r emynwyr mawr; ac er na cheir yn y gyfrol hon yr un "emyn", fel y cyfryw, y mae'n cynnwys amryw gyfansoddiadau sy'n sôn am emynwyr a lleoedd cysyllt- iedig â hwy, ac amryw byd ychwaneg yn sôn am agweddau ar fywyd crefyddol Cymru ddoe a heddiw. Ceir soned i'r Emyn, gan D. H. Culpitt (t. 18); cerdd mewn vers libre, I Bantycelyn, gan Eirian Davies (t. 28); soned i Lanfair ar y Bryn, gan S. Gwilly Davies (t. 36); Salm y Genedl-darn o vers tibre gan Jennie Eirian Davies (t. 36); ac felly ymlaen. Er mai mynegi tristwch oherwydd dirywiad ysbrydol a thrai ar grefydd y mae llawer o'r cerddi, nid dyma'r unig "newid" a bair ofid i'r beirdd. Trewir nodyn prudd yn fynych oherwydd y newid mawr a fu-gydag anfantais i'r bywyd Cymreig-yn amgylchiadau allanol cymdeithas, mewn dulliau gwaith, ac mewn pleserau ac arferion. Chwerw-drist iawn yw cân Enoch Thomas, Mamau (t. 84) A Rahel yn wylo'i dagrau radioactif, Wylo dagrau mamau'r byd. Ond trewir nodyn mwy gobeithiol ambell dro: Bydd eto flagur ar esgyrniog frig, A diheneiddir lawnt a bryn a dôl: medd Herman Jones (t. 65).