Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS GAN C. E. THOMAS "EICH Nodiadau ar gyfer rhifyn yr Hydref, os gwelwchi'n dda?" meddai golygydd Lîeufer wrthyf pan welodd fi'n tor- heulo ar Bwynt Penmon Ddydd Llun Gwyl y Banc, fis Awst. Dyna sioc imi, lle'r oeddwn yn meddwl fy mod wedi gadael "y byd a'i bethau" ar ôl yn y swyddfa am un diwrnod. Ond nid yw'r golygydd yn gadael i ryw fanion fel "gwyliau banc" fennu dim ar Lleufer. Rhaid iddo ei gael allan yn ei amser iawn; ac er ein gorfodi i godi ei bris o swllt i ddeunaw, credwn na fydd hynny'n golygu colli un cwsmer. A thra bwyf yn sôn am y golygydd, estynnwn ein llongyfarchiadau cynhesaf iddo ar gael ei urddo yn M.A. Prifysgol Cymru er Anrhydedd. Diolch i'r Brifysgol am gydnabod gwir werth. Yn ystod y tri mis diwaethaf, collasom drwy farwolaeth un o arloeswyr cynnar y WEA yng Nghymru, sef Maldwyn Hersee, Hen Golwyn, un a fu'n gweithio yn y mudiad cyn sefydlu Rhan- barth Gogledd Cymru yn 1925. Bu'n cynrychioli Undeb Gweith- wyr y Post ar y WETUC am 30 mlynedd bron, ac yn aelod o Bwyllgor Gweithiol y Rhanbarth o 1925 hyd 1958. Gwnaeth waith mawr i hyrwyddo mudiad addysg y gweithwyr ac i sicrhau ei lwyddiant. Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf â Mrs Hersee a'r teulu. Y mae cymaint o weithgarwch yn myned ymlaen y dyddiau hyn fel y mae'n anodd cofnodi'r cwbl heb ddidoli a chwtogi ar fy sylwadau. Cynhaliwyd dwy Ysgol Ben-Wythnos, un yn Llan- dudno i Undebwyr ieuainc, ac un arall i rai mewn oed ym Mangor. Cadvan Jones fu'n darlithio yn un, a John Howells, o Goleg Harlech, yn y llall. A chan fy mod yn sôn am Goleg Harlech, byddwn yn ffarwelio eleni ag I. Dan Harry, Warden y Coleg er 1946. Bydd wedi ymddeol cyn y daw'r Nodiadau hyn o'r wasg. Bu Dan Harry yn Warden dymunol a llwyddiannus iawn yn ystod y blynyddoedd dyrys wedi'r Ail Ryfel Byd. Bydd yn gadael y Coleg mewn cyflwr rhagorol ymhob vstyr, a llon- gyfarchwn ef ar y llwyddiant. Yn ystod ei deyrnasiad fel Warden, y mae'r Coleg wedi myned ymlaen o nerth i nerth. Dymunwn iddo ef a Mrs Harry hir oes o wasanaeth eto i Gymru. Dilynir ef fel Warden gan T. I. Jeffreys Jones, a fu'n aelod o'r staff yn y blynyddoedd cyn y rhyfel, a chwedyn. Y mae Jeffreys Jones yn enwog fel darlithydd drwy Gymru. Dymunwn iddo yntau ac