Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GOLEG HARLECH GAN I. DAN HARRY SONIAIS yn Nodiadau Rhifyn yr Haf am benodiad John Shaw yn ddarlithydd dros dro mewn Aihroniaeth. Tua diwedd Tymor yr Haf, penodwyd Mr Shaw yn olynydd i D. O. Thomas, a dechreua ar ei waith yn gyflawn aelod o'r staff fis Hydref nesaf. Ar yr un achlysur, penodwyd W. A. Haywood yn athro Hanes a Cherddoriaeth. Athro mewn Ysgol Ramadeg yn Swindon oedd Mr Haywood. Graddiodd ag anrhydedd mewn Hanes yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac wedi gwasanaethu fel athro am rai blynyddoedd, cymerodd ei radd mewn Cerddoriaeth. Yn vstod y gwyliau, dewiswyd Geraint Wyn Jones yn athro mewn Cymraeg yn y Coleg. Un o raddedigion Coleg y Brifysgol, Bangor, ydyw Mr Jones, a dyma ei swydd gyntaf. Hanes "pedwerydd tymor" y flwyddyn yng Ngholeg Harlech yw'r Nodiadau hyn. Wedi i'n myfyrwyr wasgaru ar ddiwedd y flwyddyn, rhoddwyd llety i ferched Ysgol Fodern Bewsey, War- rington, ac yn ystod yr un wythnos i rai o fyfyrwyr Adran Lysieueg Prifysgol Bryste. Dilynwyd hwy gan Ysgol Haf Adran Ieuenctid y Blaid Lafur, o dan ofal Alan Williams, Trefnydd Ieuenctid y blaid, a chlowyd y cwrs â Seiat Holi, a Barbara Castle yn ateb y cwestiynau. Cymdeithas Gymreig Clybiau Ieuenctid Cymru oedd ein gwesteion nesaf, o dan arweiniad A. G. Frost. Llongyfarchwn Mr Frost ar safon gwaith ei fechgyn a'i ferched yn ystod yr wythnos ddiddorol hon. Nodedig iawn ydoedd cyn- hyrchion yr Adran Gelfyddyd, a chalondid mawr ydoedd ymateb yr aelodau i'r ddarpariaeth hon ar eu cyfer. Wythnos yn llawn gobaith ydoedd. Yna dechreuwyd ar ein Hysgolion Haf ni ein hunain. "Y Nofel Saesneg wedi'r Rhyfel" ydoedd maes yr Wythnos Saesneg. Cafwyd darlithiau a thrafodaethau ar awduron fel William Golding, John Braine, Saul Bellow, Jack Keronae a C. P. Snow,,gan banel o athrawon, yn cynnwys John Davies, T. W. Thomas, Brian Way, Jack Dale ac A. G. Dyson. Daeth dros drigain o fyfyrwyr ynghyd, ac fel y disgwylid cafwyd wythnos hwylus dros ben o safbwynt addysgol a chymdeithasol. Ar ddiwedd y Cwrs, trosglwyddwyd i'r Coleg gramoffon a brynwyd gan fyfyrwyr yr Ysgol at wasan- aeth yr Ysgolion Haf o flwyddyn i flwyddyn; ac anrhegwyd y Warden â record i nodi mai hon oedd ei Ysgol Haf olaf fel Warden Coleg Harlech. Diolchaf o galon i'm cyfeillion am eu