Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDD Sajama: Teithiau ar Ddau Gyfandir, gan T. Ifor Rees. Cym- deithas Lyfrau Ceredigion. 30/ Gellir dweud am ambell lyfr fod ei weld yn ddigon i godi disgwyliadau ac ennyn chwilfrydedd. Y mae diwyg Sajama, cyn ei agor, yn gwahodd ymchwiliad pellach, ac ni siomir neb ar ôl gwneud hynny. Hanes teithiau'r awdur a geir yn y llyfr, ei deithiau ym Mexico, Nicaragua, Peru, a Bolivia, y rhan honno o'r byd lle bu yn cynrychioli Prydain Fawr am flynyddoedd lawer. Y mae wedi dewis a dethol o'i deithiau yn ofalus gan roddi i ni amrywiaeth mawr ei brofiadau wrth fynd ar hyd a lled gwledydd sydd yn ddieithr i'r rhan fwyaf ohonom. Teithiodd ar dir, ar fôr, ac yn yr awyr, ac mae enghreifftiau o hyn i gyd yn y llyfr. Yr oedd rhyw swyn i mi yn enwau'r lleoedd; yr oedd yn rhaid i mi eu dweud yn uchel wrth eu darllen. Cofiwn am delyneg Saesneg W. J. Turner, Romance: "Chimborazo, Cotopaxi, They had stolen my soul away", heb anghofio Popocatepetl, y mynydd y sonnir amdano gan Turner, ac a ddisgrifir yn y llyfr hwn. Cofiwn hefyd am linell fywiog Dewi Wyn: "Aed o'r Ararat i dir Aurora", a llinell hudol Alun: "O aelgerth Cashgur hyd i garth Travancore". Pan oeddwn fachgen, un o'r llyfrau a fwynhawn fwyaf oedd Anturiaethau Cymro yn Affrica, a gallai T. Ifor Rees roddi'r gair "Cymro" yn nheitl ei lyfr yntau a'i alw yn Teithiau Cymro ar Ddau Cyfandir, oherwydd teithiwr sy'n mynd â Chymru gydag ef yw'r awdur. Gwelir hyn o hyd mewn ymadrodd a phriod-ddull, ac yn y mynych gyfeiriadau at y Beibl Cymraeg a Phantycelyn, heb sôn am feirdd Cymraeg eraill. Ymwelodd â llawer lle ac amryw bobl, ac ymddiddorodd yn hanes y lleoedd a'r trigolion. Ceir sôn am olion hen wareiddiadau ac am fywyd heddiw, am deithiau diddanus ac am ddigwyddiadau cyffrous. Atgofion melys sydd ganddo am y bobl y bu yn eu plith; beth bynnag, dyna'r