Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

argraff a gawn, ac y mae'n sicr fod gan lawer ohonynt hwythau atgofion hyfryd am y Cymro a fu unwaith yn ymweld â hwy. Nodais y pethau hyn am fod cryn gamp ar y disgrifiadau. Ond y mae hefyd yn y llyfr dudalennau ar dudalennau o ddarluniau godidog, a rhai ohonynt yn ddarluniau lliw; bydd llawer yn barod i ddweud fod y darluniau eu hunain yn werth y swm a ofynnir am y llyfr. Gallwn bentyrru ansoddeiriau canmoliaethus wrth sôn am y darluniau, ond gadawaf i'r un a ddefnyddiais eisoes wneud y tro. Y mae cydbwysedd hyfryd rhwng y darluniau a'r ysgrifau. Dywed E. T. Griffiths yn ei ragair i'r llyfr, "Dyma gyfrol a ddylai yn ddi-os fod ar seld lyfrau pob Cymro darllengar"; hoffwn innau ychwanegu, "ac yn llyfrgell pob ysgol", oherwydd i ieu- enctid Cymru y cyflwynir y gyfrol. Y mae hwn yn llyfr arbennig, ac fel y mae pethau heddiw ym myd llyfrau, y mae'r pris yn isel. Pob clod i Gymdeithas Lyfrau Ceredigion, sydd wedi gwneud cymaint eisoes, am gyhoeddi'r llyfr. Haedda menter fel hon bob cefnogaeth. Y mae'r Nadolig ar ddyfod; dyma lyfr anrheg gwerth ei roi a gwerth ei gael. T. HUGHES JONES Llyfr Natur, gan Audrey Williams a Nita Thomas. Llyfr Natur Paul a Nesta, gan W. J. Jones. Y ddau gan Lyfrau'r Dryw am 9/- yr un. Storïau Gwerin, gan Trevor Williams. Llyfrau'r Dryw. 3/6. Aeth bron yn ystrydeb bellach gyfeirio at symbyliad a chefnog- aeth Pwyllgor Addysg Sir Aberteifi i awduron, ac wele ddau Lyfr Natur gyda'i gilydd o wasg Llyfrau'r Dryw, y ddau'n cyd- nabod eu dyled i'r pwyllgor hwnnw. Rhaid diolch yn galonnog i'r pwyllgor ac i'r cyhoeddwyr am y ddau lyfr deniadol hyn. Cyfoethogwyd Llyfr Natur â ffotograffau gwych a lluniau creff- tus E. Meirion Roberts. Y mae'r Gymraeg yn llyfn a hawdd i blentyn ifanc ei ddeall. Amwys, er hynny, er enghraifft, y sôn am "y glaw yn helpu i fwydo'r had". Nid oes dim, hyd yn oed yn yr eirfa, i ddangos mai treiglad o mwydo sydd yma, nid o bwydo. Dysgwyd fi mai aroglau, arogleuon, sy'n gywir, nid arogl (t. 15 a 77); plisg, nid plysg (10); a gair hollol ddieithr i mi yw bwydod (25). Gwenyn meirch a glywais i bob amser am gwenyn gwylltion (37), ac onid pigiad, yn hytrach na brath, a rydd gwenynen â'i cholyn? Am falwoden gragen yn unig y sonnir (68), ond ffotograff o falwoden ddu, ddi-gragen, sydd yn y llyfr (69). At ddau fath o