Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(1) Ffoi heb ei Erlid, gan W. J. Jones. Llyfrau'r Dryw. 9/ (2) Urdd y Rhuban Du, gan R. Gwilym Williams. Llyfrau'r Dryw. 7/6. (3) Y Dyfroedd Tywyll, gan John R. Evans. Gwasg Gee. 8/6. (1) Dyma un o'r teitlau mwyaf addas a welais erioed, ac yr wyf yn sicr y cytuna pawb â mi. Er nad yw'n gwneud y llyfr, nid peth dibwys yw teitl da pan fo'n goron ar lyfr da. Elwyn Huws yw'r prif gymeriad, dyn ifanc a welodd lofrudd yn dianc mewn modd a'i gwnâi bron yn amhosibl i neb ddod o hyd iddo, a chanlyniadau ei ymateb ef i'r sefyllfa honno yw'r stori. Fe ddechrau â ffaith drawiadol: anodd fyddai i neb beidio â darllen ymlaen. Y mae gwead y stori yn gelfydd iawn, a cheir y cyplysu digwydd- iadau effeithiol hwnnw a nodweddai rai o nofelwyr gorau y bed- waredd ganrif ar bymtheg, ac sy'n rhoi cymaint o bleser i'r darllenydd. Hoffais y disgrifiadau byw a'r manylion, gan eu bod wedi ei gwau i mewn i symudiad y stori heb darfu ar ei rhediad. Dyma ddisgrifiad effeithiol o yrru beic modur ar wib: wrth i'r olwynion grynu eu ffordd ar hyd y tarmac caled". Ceir ymdeimlad o dyndra drwy'r llyfr o'r dechrau i'r diwedd, a gorfodir y darllenydd i gydymdeimlo ag Elwyn Huws yn angerdd ei anawsterau. Parodd y ddeupeth hyn imi hoelio fy sylw arno nes cyrraedd y diwedd, a gellir dweud heb ddatguddio gormod fod tro bach annisgwyl yng nghynffon y diwedd hwnnw. Fel mewn llyfrau eraill o'r math yma, ceir Inspector yr Heddlu a merch ddeniadol, ond nid cymeriadau ystrydebol mohonynt. Peth bach a'm trawodd oedd na pharodd yr awdur i Elwyn Huws ddychrynu pan welodd y corff, ond tybiaf ei fod yn gwybod ei waith yn rhy dda i beidio ag ystyried hynny. Barned y dar- llenydd drosto'i hun. Y mae'r iaith yn dda, heb fod yn anystwyth. Os am lyfr Cymraeg, gadwch inni gael Cymraeg, ac nid Cymraeg sy'n dryfrith o eiriau Saesneg. Mae'r fath fwngreliarth yn gas gennyf; nis ceir yma. (2) Stori antur sy'n debyg o apelio at bobl ieuainc yn fwyaf arbennig ydyw hon, ond peidied neb â meddwl na fydd pobl hyn yn ei mwynhau. Cawn hanes Inspector a'i Gwnstabl yn ymweld â ffoadur o Hwngari, Paul Molnar, a ofna fod rhywbeth pwysig iawn yn debyg o gael ei ladrata oddi arno. Pan gyrhaeddant, cânt fod nid yn unig y peth hwnnw wedi diflannu, ond Molnar hefyd.