Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(1) Y Gymwynas Olaf, gan J. Ellis Williams. 7/6. (2) Sadig y Detectif, gan J. Ellis Williams. 9/ Y ddau gan Lyfrau'r Dryw. (3) Elizabeth Dauies, 178 9-1860, gan Meirion Jones. Gwasg y Brifysgol. 3/ (1) Dyma'r drydedd nofel o Gyfres Hopcyn, ac fel Y Gadair Wag a Talu'r Piuyth, y mae'n gafael yn y darllenydd, gan ei gadw mewn byd o chwilfrydedd o'r prolog i'r epilog-dirgelwch y drws wedi ei gau o'r tu mewn, gan bwy? llofruddiaeth Ned Lloyd, pwy? paham? pryd? y llythyr a sgrifennodd, ymh'le mae? Dyma rai o'r dirgelion sy'n cadw'r darllenydd ynghlwm wrth y llyfr nes cyrraedd y tudalen olaf. Tra pery Inspector Hopcyn i ymweld â'r hen wlad, gan gyn- orthwyo ei hen ffrind, y Chief, i ddatrys rhyw ddirgelwch, ni fydd rhaid pwyso ar ieuenctid Cymru i ddarllen Cymraeg. (2) Na, nid un o Gyfres Hopcyn ydyw'r ail lyfr hwn, ond casgliad gwych o chwedlau'r byd — Babilon ac India, Affrica a Japan, Persia a'r Almaen, Lloegr a China. Mae'r teitl yn gam- arweiniol. Onid gwell fyddai "Chwedlau o Bobman"? Y mae yma bob math o chwedl; chwedl ddau funud, pum munud, deng munud; chwedl Wlad yr Ia, a chwedl y trofannau. I'r athro, neu'r tad neu'r fam, sydd wedi disbyddu Chwedlau Aesop, dyma lyfr i'r dim, yn cynnwys trigain o storïau diddorol, ynghydag ugain o ddarluniau du a gwyn gan E. Meirion Roberts, sy'n sicr o dynnu sgwrs rhwng y plentyn a'r darllenwr. (3) Fe ddarllen y paragraff olaf ond un fel hyn: "Ni ellir can- mol gormod ar Elizabeth Davies, y ffyddlonaf o nyrsys Ei Mawr- hydi a aberthodd ei bywyd bron er lles ei chyd-ddynion". Ac ni ellir canmol gormod ar waith Meirion Jones yn rhoi inni mor gryno ac mor ddiddorol ddarlun mor gyflawn o fywyd rham- antus "Florence Nightingale y Cymry". Dylai gwybodaeth o fywyd cyffrous Beti Cadwaladr o'r Bala yn crwydro'r byd bron, ac yna, yn bump a thrigain oed, yn dechrau gyrfa fel nyrs yn y Crimea dylai'r wybodaeth hon fod yn etifeddiaeth pob geneth (a bachgen) o Gymraes (neu Gymro). Ac i'r di-Gymraeg y mae'r cyfieithiad gan Amy Parry- Williams lawn mor ddarllenadwy. Y mae'r darluniau a'r mapiau o gynhorthwy mawr i ddehongli'r hanes rhamantus hwn. Yn sicr, dyma un o'r goreuon ymhlith Cyfres Llyfrau Gwyl Ddewi. J. CARADOG WILLIAMS