Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(1) Atgofion Bore Oes (Albert Schweitzer), wedi eu trosi i'r Gymraeg gan T. Glyn Thomas. Llyfrau'r Dryw. 7/6. (2) Tipyn o Annwyd, gan Wil Cwch Angau. Gwasg Gee. 6/ (3) Difyr a Dwys (Trydydd Llyfr Adrodd), gan Wil Ifan. Gwasg Aberystwyth. 6/ (1) Campus o lyfr yw hwn, llyfr sy'n peri i ddyn deimlo'n well drwyddo wedi ei ddarllen. Gwnaeth T. Glyn Thomas gymwynas fawr â ni flwyddyn yn ôl trwy sgrifennu "y llyfr cyntaf a ysgrifen- wyd erioed yn Gymraeg ar Albert Schweitzer". Yn awr, wele lyfr arall eto 0 law yr un cymwynasydd. Cafodd Mr Thomas hwyl anghyffredin ar ei drosi. Ar wahân i rai enwau priod ac enwau lleoedd Germanaidd yn rhannau cyntaf y llyfr, ni buasai neb yn meddwl am funud ei fod yn darllen cyfieithiad. Yr oedd Schweitzer erioed yn ddarllenwr mawr, a diddorol yw ei gael ef ei hun yn gosod allan ei safon o farnu gwerth llyfr a melodedd arddull pan oedd yn blentyn ysgol. Dyma a ddywed ar t. 41: "Os swynai'r llyfr fi gymaint nes fy ngorfodi i ddarllen pob brawddeg, barnwn fod yr arddull yn wych. A dyma fy marn hyd heddiw". Os derbyniwn y safon yna (a pham lai?), rhaid cydnabod fod arddull Mr Thomas hefyd yn wych iawn. Mae'r ail lyfr hwn yn llawer mwy difyr a darllenadwy na'r llyfr cyntaf. Mor rhyfeddol o debyg oedd bywyd gwerin yr Almaen yn chwarter olaf y ganrif ddiwethaf i'r hyn ydoedd yng Nghymru! Sonnir am y clochydd bob bore Sul yn galw yn y Mans i gael rhif yr emynau cyn y Gwasanaeth. Deallwn yn well hefyd sut y daeth yr Almaen yn nyddiau Hitleriaeth i erlid a lladd yr Iddewon. Yr oedd hadau'r casineb hwn wedi eu plannu'n gynnar iawn ymhell cyn bod Hitler canys yn amser bachgendod Schweitzer rhedai'r plant ar ôl Iddew gan ei wawdio'n gyhoeddus. Y plant hynny, wedi tyfu'n fawr, a welsom ni yn ein dyddiau, a'u pechod wedi medi'r corwynt. Y mae gwerth llenyddol pwysig yn y llyfr hwn, a hyderaf y bydd yn symbyliad i ragor o drosiadau tebyg. Ond ei werth pennaf yn ddiau yw ei fod yn dangos inni dwf meddyliol a moesol un o feddylwyr mwyaf ein cyfnod, os nad y mwyaf un. Gwelwn y pethau, yn bersonau ac amgylchiadau, a fu'n dylanwadu ac yn helpu i ffurfio personoliaeth amlochrog y cawr hwn o ddyn. Efallai mai pennod odidoca'r llyfr yw'r olaf-Adolygu ac Adfyfyrio. Yma ceir aeddfed ffrwyth ei brofiad a'i sylwadaeth ar fywyd. Ni ddarllenais ddim yn Gymraeg ers llawer lleuad a roes fwy o wir fwynhad a bendith imi na'r llyfr hwn.