Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(2) Llyfr hollol wahanol yw hwn, gan awdur a'i geilw ei hun yn Wil Cwch Angau. "Stwff" yw enw'r awdur ar gynnwys y llyfr, a stwff anghyffredin o ddiddorol. Dyma rywbeth go newydd yn ein llenyddiaeth, ac fe'i derbynnir yn siwr â breichiau agored. Nid oedd galw o gwbl am i'r cyhoeddwyr ymddiheuro fel y gwnânt am gyhoeddi'r llyfr. Difyr yw rhagair yr awdur, ac i'r pwynt. Buan y deuwn i ganol cymeriadau na ddaethant o'r blaen, er dyddiau Daniel Owen, i mewn trwy byrth ein llên-cymer- iadau fel Sam Riwbob-Dafydd Arian Pobl Eraill-Wil Saim Gwallt-Bob Dwygeiniog-Elis Wyau Clwc- Joe Haleliwia, ac eraill pob un ohonynt yn gymeriadau byw a hoffus cymer- iadau llwyfan gomedi yn fwy na llyfr. Y mae'n amlwg fod Wil Cwch Angau (pwy bynnag yw) yn sylwedydd craff anghyffredin, ac yn nabod ei bobol fel cledr ei law. Defnyddir yr iaith lafar drwy gydol y llyfr, a thrawiadol (ac effeithiol hefyd) yw'r defnydd a wneir o amser presennol y ferf i sôn am bethau a ddigwyddodd yn y gorffennol (the dramatic present\). Diolch iddo am roi inni lyfr fel hwn i'n gosod mewn mwd i fwynhau gwyliau haf. (3) Darnau newydd ar gyfer Adroddwyr o waith y Prifardd Wil Ifan, a geir yn hwn, a chwanegwyd rhai darnau prôs ar y diwedd o waith awduron eraill, megis "Ifan Bryn-Glas" (Mrs S. Holland) Miles), a chwpl o sylwadau bachog Mathews Ewenni yn ôl y Parch. Margam Jones. I gyfarfod â'r galw am ddarnau adrodd newydd y paratowyd y gwaith hwn. Os felly, syndod yw cael rhybudd ar y dechrau "na ellir defnyddio unrhyw ran o'r gyfrol hon mewn rhaglenni Eisteddfodau etc., heb ymgynghori â'r cyhoeddwyr". Os cyhoeddi llyfr fel hwn, a gofyn tâl o chwe swllt amdano, yn sicr dylid ei roi wedyn at wasanaeth adroddwyr a phwyllgorau eisteddfodau heb ragor o lol. Y mae gwaith Gwasg Aberystwyth yn odidog, a'r rhwymiad yn gadarn. ROBERT OWEN Ar Wib yn Sweden, gan Dafydd Jenkins. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. 15/ Yr oedd Swediad yn y ty gyda mi pan ddarllenwn y llyfr hwn. Yr oedd yn Swediad anghyffredin, canys yr oedd yn barod i drafod nodweddion ei gyd-genedl yn gwbl agored. Ers deng mlynedd ar hugain, cefais y fraint o gyfrif fy nghyfeillion yn Sweden ymysg fy nghyfeillion gorau oll, eithr nid yw hynny yn fy nallu i'r ffaith nad ydyw'r Swediaid fel rheol mor agos atoch â'r Norwyaid. Rhoddant fwy o bwyslais ar gonfensiwn, ar yr hyn sy'n "iawn".