Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn hynny o beth maent yn bur debyg i'r Saeson. Ac fe gadarnheid hyn oll gan fy ymwelydd eleni: yn wir yr oedd yn fwy beirniadol o'i genedl nag y dymunwn i (a gafodd gymaint o garedigrwydd ganddi) fyth fod. Prin y daw gwir ymdeimlo â theithi Sweden i'r amlwg yng nghyfrol Mr Jenkins. Chwarae teg iddo, "ar wib" y mae ac ni chafodd gyfle ar ei wibdeithiau i ymglywed â swyn eithriadol Kalmar a Gävle, Hora a Visby, a chyfrinion ardaloedd mwyaf anghysbell talaith ddewinol Dalarna. Y bywyd amaethyddol yw prif ddiddordeb yr awdur a cheir yn sgil hynny hanes diddorol ambell arfer a gŵyl. Ychydig a welodd, er enghraifft, o amguedd- feydd gwerin: er iddo fod yn Lund, ni welais ddim yn y gyfrol i ddangos ei fod wedi ymweld â Kulturen, y ganolfan ddiddorol honno sydd dan gyfarwyddyd Sven Kjelberg, ac y mae'n troi heibio i amgueddfa werin Skansen gan ofidio braidd ei bod yn agored o gwbl. Gyda llaw, y mae'n hollol anghywir yn ei gred mai hon a fu'n batrwm i Amgueddfa Werin Cymru. Y gwir am Skansen yw mai hi oedd yr amgueddfa gyntaf o'i bath, ac mai pwrpas ei sylfaenydd oedd ei gwneuthur yn ganolfan genedlaethol ymhob ystyr, yn hen dai, yn anifeiliaid, a hyd yn oed yn cynnwys awgrym go helaeth o'r hyn a welir yn y Tivoli yn Copenhagen. Yng Nghymru, gellir elwa ar rai o gamgymeriadau'r arloeswyr, ond saif Skansen, er hynny, yn glod i'w chynllunwyr. IORWERTH C. PEATE Employment and Unemployment in North-West Wales, gan Silvan Jones a Geoffrey Smith. Coleg y Brifysgol, Bangor. 5/ Cyhoeddwyd yr astudiaeth hon gan Adran Economeg Coleg y Brifysgol, Bangor. O safbwynt ystadegol, yn bennaf, yr edrychir ar y broblem, a hyn, yn ddiddadl, a gyfrif am fod y rhan fwyaf o'r casgliadau a gyflwynir i'n sylw mor annisgwyl, ac efallai mor annerbyniol i'r rhai sydd wedi bod yn ymboeni â'r broblem hon ers blynyddoedd bellach. Dyma rai. Ni bu diboblogi yng Ngogledd-Orllewin Cymru yn ystod y deugain mlynedd diwaethaf! Yn hytrach, cynyddodd y boblogaeth o 306,800 yn 1901 i 313,600 yn 1957 (t. 6 a 7). Nid yw'r diwydiant llechi yn ffactor bwysig o gwbl yn yr ardaloedd hyn ers hanner can mlynedd bellach, oherwydd 4 y cant yn unig o'n poblogaeth weithfaol sydd ynddi (t. 76). Nid yw diweithdra chwaith yn gymaint problem ag y tybir yn gyffredin ei bod. Wedi