Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

trin y ffigurau, "Cyfrifwn", meddai'r ddau awdur, "fod rhyw 2,000 o wyr a 13,000 o ferched (di-briod a phriod) wrth law i'w cyflogi pe gellid cael gwaith iddynt o dan amodau normal" (t. 27; edrycher hefyd yn arbennig ar dop t. 28). A phaham y cwyno oherwydd diffyg diwydiannau yn Sir Fôn? Dywed yr ystadegau: "In fact, the proportion of Insured EmpLoyees engaged in manu- facturing has been far higher in Anglesey than anywhere else in the area, h.y., Gogledd-Orllewin Cymru. Nodwedd arall a berthyn i'r ymdriniaeth yw ffydd uniongred y ddau awdur mewn damcaniaethau economaidd. Wedi sylwedd- oli nad ydyw na diboblogi na diffyg gwaith yn broblemau mor fawr â hynny inni, pwysleisiant mor amhosibl o safbwynt econ- omeg ymarferol yw gwneud dim i'n helpu (t. 104-8). Ymddengys mai un o beryglon ymadael â'r "llwybr cul" yn economaidd fyddai achosi chwyddiad ariannol a thaflu'r bunt oddi ar ei hechel! (t. 102). Rhai da am godi bwganod yw'r economyddion, ac oni bai fod y rhai parchusaf ohonynt wedi eu bradychu eu hunain fel gau-broffwydi mor aml yn y ganrif hon, buasai gennym Ie i ddychryn yn fawr iawn oherwydd y miloedd ar filoedd y medr y Llywodraeth eu gwario ar lannau Mersi a lleoedd eraill, er mwyn rhoi pen ar ddfweithdra yno! Y mae'n debyg mai sêl economaidd y ddau awdur hyn a ddallodd eu llygaid rhag gweld fod rhywbeth ymhell o'i Ie yn sylfeini eu hymdriniaeth, gan fod enwi Cyngor Dinesig y Rhyl, o bob man, fel un o'r lleoedd i'w cynorthwyo o dan Ddeddf Lleoli Diwydiannau 1958 (t. 117). Rhaid imi gyfaddef imi gael fy atgoffa, ar ôl astudio'r llyfryn hwn, o'r hen ddywediad nad oes ond un peth a all fod yn fwy camarweiniol na ffeithiau, sef yw hynny, ffigurau Byddai dat- blygu'r syniad hwn yn galw am adolygiad maith a manwl, ond nid oes ofod i hynny. E. CADVAN JONES Croeso mawr i gylchgrawn newydd o Wasg y Brifysgol. The Welsh History Reoiew, a Glanmor Williams yn olygydd. Ceir vma ysgrifau gwerthfawr, yn cyrraedd o Elis Gruffudd o Galais hyd "Gladstone a Chymru" yn nyddiau Tom Ellis. Y mae ynddo 109 o dudalennau, a'r pedair tudalen olaf yn Gymraeg! Buasai'n well gennyf o lawer ei gael yn Saesneg i gyd na gweld rhoi safle mor sarhaus i'r iaith Gymraeg. Y mae'n gylchgrawn Saesneg pwysig a diddorol iawn, ac yn llawn werth ei bris, 8/6, neu '1ft i danysgrifwyr. D.T.