Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU Cyf. XVII HAF 1961 Rhif 2 NODIADAU'R GOLYGYDD Y MAE arnaf eisiau trafod dau neu dri o bynciau dyrys sy'n codi o 'ngwaith yn golygu Lleufer; caf drafod rhai eraill rywdro eto, gobeithio. Adolygu ydyw un o f'anawsterau mawr-nid prinder adolyg- wyr, ond prinder lle. Byddaf yn rhoddi llawer o bwys ar adolygu llyfrau oblegid ystyriaf fod cyfarwyddo darllenwyr Lleufer ynglyn â'r llyfrau newydd a gyhoeddir yn un o'r cymwynasau pwysicaf y gall ei wneud â hwy. Rhan arall o'r un gymwynas ydyw'r Rhestr o ysgrifau mewn cylchgronau a ddarperir inni bob blwyddyn gan Moelwyn Williams, o'r Llyfrgell Gened- laethol. Byddant yn werthfawr i gyfeirio yn ôl atynt am flynyddoedd. Adolygiad addysgiadol ydyw'r math o adolygiad y caraf ei gael, yn hytrach nag un beirniadol. (Nid fy mod yn cau allan feirniadaeth chwaith). Dychmygaf weld athro'n sefyll o flaen dosbarth WEA â'r llyfr yn ei law, yn sôn wrth ei ddosbarth amdano, trafod ei bwnc a'r wybodaeth a'r goleuni sydd ynddo, a rhoi ei resymau (os bydd digon o reswm) dros ddweud y talai iddynt ei brynu. Y mae gwaith felly yn rhan o ddyletswydd athro at ei ddosbarth, ac yn rhan hefyd o waith cylchgrawn sy'n amcanu at wasnaethu'r athrawon a'r aelodau fel ei gilydd. Y mae cymaint o lyfrau Cymraeg da yn cael eu cyhoeddi y dyddiau hyn-a diolch amdanynt-nes ei bod yn mynd yn anos bob dydd eu hadolygu i gyd yn deilwng mewri cylchgrawn chwarterol. Fe ellir gwneud ambell un eto yn destun ysgrif, ond am y rhan fwyaf y mae arnaf ofn y bydd yn rhaid bodloni ar adolygiadau byrrach. A nodiadau byrrach fyth am lyfrau i blant. Yr oedd yn fy mwriad, pan sefydlwyd Lleufer, gyhoeddi mwy o waith creadigol ynddo nag y gellais ei wneud. Cefais yr hyfrydwch o gyhoeddi rhai storïau byrion a cherddi tan gamp o dro i dro, ond ni fyddaf yn cael digon ohonynt. Yr wyf yn