Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddiolchgar iawn i'r rhai a anfonodd eu gwaith imi, ac yn arbennig o ddiolchgar i'r ffyddloniaid-na raid imi mo'u henwi. Mi wneuthum reol arall i mi fy hun wrth gychwyn Lleufer, sef, Edrych ymlaen yn fwy nag yn ôl Ond y mae mwy o lawer i'w weld wrth edrych yn ôl, a theimlaf fod gennyf yn awr braidd ormod, yn ôl yr herwydd, o ysgrifau ar hanes a llenydd- iaeth. Rhaid cael mwy ar bynciau'r dydd a gwyddoniaeth; y mae'n dda gennyf fod dwy ysgrif ar wyddoniaeth yn y rhifyn hwn. Gair eto ar bwnc yr orgraff. Y mae gan LLEUFER ei orgraff ei hun, ond bydd awduron yn rhydd i sgrifennu yn eu horgraff eu hunain os mynnant. Rai blynyddoedd yn ôl, yr oedd arnaf eisiau caniatâd J. Glyn Davies i gyhoeddi sgwrs radio ar Portinllaen a gawswn ganddo. Bu raid anfon teligram cyn cael ateb, a dyma'r ateb: Agreed my spelling Glyn. A "my spelling" fu-hi ar hyd yr amser y cefais gyhoeddi ei gerddi a'i ryddiaith blasus yn ystod ei oes, a dyna ydyw eto o barch iddo. Byddaf yn ceisio sillafu geiriau Cymraeg yn ôl eu sain. Y llafariad U a roddaf mewn geiriau fel sumbol, sustem, suful, rhuthm, er pan gyhoeddwyd LLEUFER gyntaf, am mai dyna'r sain a glywaf i yn y geiriau hyn. Ond fe welwyd simbol a system hefyd ar ddalennau Lleufer, o barch i ddymuniad awduron rhyw ysgrifau neu gerddi. Cymerwch diwethaf a diwaethaf eto; y mae'r ddau sillafiad yn gywir, medd Pwyllgor yr Orgraff. Y mae'r ddau yn hen hefyd, cyn hyned, beth bynnag, â'r 13eg ganrif, a'r ddau bron cyn hyned â'i gilydd-diwethaf yw'r enghraifft hynaf sydd ar gael. Dwetha a ddywedir ar lafar yn y De heddiw, ond dwaetha (yn odli â gwaetha) yn y Gogledd, a hwnnw'n tueddu i fynd yn dwytha, yn enwedig yng Ngwynedd. Ac ym Mhowys hefyd. Y sillafiad diwethaf a ddisgwyliech gan lenorion o'r De, ac y mae croeso i lenorion y Gogledd sillafu'r gair felly os dymunant. Ond diwaethaf a ddewisaf i, sydd yn Ogleddwr, am mai yn ôl sain geiriau y byddaf yn eu sillafu. Diwaethaf oedd sillafiad Tudur Aled a Morgan Llwyd a John Morris-Jones, ac fe'i ceir yn y Llyfr Gwyn ac yn y Llyfr Coch. Dewised pawb ei sillafiad ei hun. Ond teimlaf mai cam dybryd â phlant y Gogledd yw dysgu iddynt mai diwethaf (ffurf hollol artiffisial iddynt hwy) ydyw'r unig sillafiad cywir, a gwadu cynaniad traddodiadol eu bro, dwaetha, sydd â gwarant llenyddol iddo er yr Oesoedd Canol.