Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
y perthi a'r planhigion bychain, a'r llawr o wellt a mwsog. Ac
yn y cae yd, y cnwd a fydd dalaf, yna chwyn dipyn llai, a mân
chwyn ar wyneb y tir.
Caru'r encilion a wna rhai llysiau, a bodlon ydynt ar ddal yr
ychydig haul a dreiddia rhwng dail y coed ganol haf. Nid felly
fwtsias y gog a blodau'r gwynt. Blodeua'r rhain yn y gwanwyn
cynnar, cyn i'r coed uwchben ddeilio a chau'r awyr o'u golwg.
Wedi i ddyn dorri a chlirio coedwig gwelwn nifer o gyfnewid-
iadau trawiadol, fel y bydd ymryson rhwng gwahanol fathau o
blanhigion am Ie, am olau, am ddŵr. Bydd llawer o dyfiant yn y
dechrau, ond tra llwydda'r ychydig i fyw yn y tir, trengi a wna'r
gweddill, ac fe gymer flynyddoedd cyn y sefydlir mantoliad eto
ar y darn hwnnw o dir.
Dibynna anifeiliaid ar blanhigion, nid yn unig am gynhaliaeth,
ond am loches hefyd yn aml anifeiliaid yn y goedwig, adar ar y
canghennau, trychfilod ar y dail a'r rhisgl, ymlusgiaid a mân
anifeiliaid yn y gwellt, a phryfed di-rif ymhobman.
Gall anifeiliaid newid yr amodau naturiol weithiau, ac yn
sicr fe wnaeth cwningod hynny. Credir mai'r Normaniaid a'u
cludodd i Brydain gyntaf, i'w cadw mewn cwning-gaerau, er mwyn
eu crwyn. Aethant ar chwâl yn fuan, gan epilio'n brysur nes
daeth mantoliad rhyngddynt a'u gelynion naturiol, fel y wenci
a'r carlwm. Pan fynnodd ciperiaid ac eraill ladd y rhai olaf hyn,
yr oedd rhyddid i'r cwningod ehangu eto, a gwelwyd yn fuan
eu heffaith ar lystyfiant, gan mor niferus a barus oeddynt. Daeth
firws myxomatosis i beri haint yn eu mysg ddiwedd 1953. Er i'r
firws ladd 99 y cant o'r cwningod yn Awstralia, nid oedd mor
farwol yma. Eto diflannodd y cwbl bron yng Nghymru, a rhodd-
odd y ffrwydrad bywydegol hwn gyfle gwych i wyddonwyr
astudio'r canlyniadau ecolegol.
Trwy gyfrif poblogaeth nifer o gwning-gaerau cyn 1953, cafwyd
nid yn unig amcan o rif y cwningod, ond ffigurau i ddangos bod
8 0 bob 10 yn marw yn ystod y flwyddyn, hynny'n profi eu bod yn
ysglyfaeth i nifer o heintiau naturiol ac amryw elynion, heblaw
dyn â'i groglath, ei drap a'i ffured. Eto, yr oedd digon yn wedd-
ilí i beri dinistr helaeth i gnydau, a hwythau'n fwy hoff hefyd
o'r llysiau mwyaf blasus, gan adael i chwyn a rhedyn ymledu.
Pan ddiflannodd y cwningod, wedi'r haint ysgubol, cyfoethog-
wyd y meysydd gan amgenach gwelltglas a gwair mwy toreithiog,
a chafodd coed ifainc gyfle i dyfu. O'r ochr arall, hoff gan rai
planhigion y gwellt byr o'u cwmpas, ac y mae perygl colli'r
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.