Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

rheini trwy eu mygu gan welltglas tal. Trwy gadw'r gwelltglas yn fyr, cadwodd y cwningod reolaeth ar rai rhywogaethau o wellt a fanteisiodd ar eu diflaniad. Felly, bu newid yn mantoliad y llystyfiant yn y meysydd. Yr oedd prinder cwningod yn golygu nad oedd bellach gym- aint o fwyd ar gyfer anifeiliaid fel y llwynog a'r wenci, y dylluan fawr a'r foncath, fel y golygodd i'r rhain chwilio am ffynonellau eraill, megis llygod, neu drengi, nes peri cyfnewidiadau mewn mantoliadau bywydegol eraill, gan mor gymhleth y gyfundrefn. Gwelwyd llawer rhagor o lwynogod yn hela liw dydd ac yn chwilio am lygod, ac fe aeth ieir yn fwy o demtasiwn iddynt nag arfer. Gan fod yr anifeiliaid hyn yn troi at lygod, yr oedd llai ohonynt ar gyfer tylluanod ac fe aethant hwythau'n brinnach. Yn ddiweddarach, golygodd prinder. bwyd o'r fath fod llai o'r anifeiliaid a arferai ddibynnu'n helaeth ar gwningod, gan arwain i fantoliad newydd eto. Ond yr oedd lleihad yn nifer y llygod yn golygu nad oedd cynifer o'r rheini i ddifrodi tyfiant ifanc blodau'r gwanwyn, fel y bu amgenach tymhorau hyd yn oed i flodau'r gwrychoedd pan ddaeth myxomatosis. Ni lwyddodd y firws i beri i'r cwningod ddiflannu, gan i nifer ohonynt fedru gwrthsefyll ei effeithiau, ac fe epiliodd y rheini hyd yn oed ym mhresenoldeb yr haint. Erbyn hyn, gwaith yr amaethwr yw eu dinistrio rhag iddynt eto amlhau ar ei dir. Y mae'n werth iddo geisio gwneud hynny gan yr amcangyfrifwyd yn 1955 fod cynnyrch yr yd ym Mhrydain yn ddau gan pwys vr acer yn rhagor na chynt, sef gwerth £ 10 miliwn i'r wlad. Hawdd gweled nad yw'r ffigur hwn yn afresymol, gan fod tua chan mil- iwn o gwningod ym Mhrydain Fawr cyn yr haint, a bod naw ohonynt yn bwyta cymaint â dwy ddafad, 30 gymaint â bustach. Daeth yn fater o economeg, nid ecoleg yn unig. Daeth cyfle arall i fywydegwyr astudio arbrawf ecolegol pwysig yn ddiweddar, sef dilyn canlyniadau adeiladu'r rhagfur yn Kariba a chronni yno ddwr i wneud un o lynnoedd mwyaf Affrica. Dyma greu amgylchedd o'r newydd. Bu ymchwil i ganfod y Pysgod mwyaf addas ar gyfer llyn o'r fath, pysgod bwytadwy a fanteisiai ar yr amgylchedd newydd ar eu cyfer. Golygodd hyn roi rhywogaeth newydd yno, nad oedd i'w gael yn y rhan honno o Afon Zambesi, ac astudiaeth o'r bwyd ar gyfer y pysgod, yn bryfetach a phlancton. (Bywyd meicroscopaidd y dwr yw'r plancton. Dibynna tyfiant hwnnw ar oleuni, ac felly bydd cyf- newidiadau hanfodol fel yr â'r llyn yn ddyfnach, gan ddylan-