Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ond er bod Tagore wedi teimlo chwerwder babandod, ni chasglwn i'r blinder hwnnw fod yn anghyffredin mewn na maint nac ansawdd. O'i fabandod, yr oedd ganddo deimlad dwfn at brydferthwch natur, ac agosrwydd deallus yn ei gymdeithas â hi, a'r un pryd yr oedd yn hoff o gwmni pobl. Berwai'r teimladau hyn ynddo, gan weiddi am fynegiant, ac yn gynnar rhoes Tagore fynegiant iddynt trwy gyfrwng barddoniaeth yn arbennig, a hefyd mewn rhyddiaith. Yn fuan enillodd fri yng ngwlad ei enedigaeth, ond, fel y dywedodd yn ddiweddarach yn ei fywyd, "Ni chefais gwbl dderbyniad gan fy nghydwladwyr, a bu hyn yn fendith; oherwydd nid oes dim sydd yn fwy melltithiol na llwyddiant anhaeddiannol". Hawdd deall nad oedd teimladau o'r fath yn debyg o wneud iddo hoffi'r ysgol ddyddiol. "Dyddiau trist oedd y rhain", meddai, ac megis i bwysleisio nad oes dim mewn bywyd heb ei bwrpas, anhapusrwydd ei ddyddiau ysgol a'i taniodd yng nghanol-oed i gychwyn ei ysgol ym Mengal. Aeth tua deugain mlynedd heibio cyn i hyn ddigwydd, a llawer blwyddyn o waith creadigol, yn farddoniaeth a rhyddiaith, tu ôl iddo. Cychwynnodd ei yrfa lenyddol â'r Bhanu Singh, ei delynegion cyntaf, a gyhoeddwyd tra nad oedd ef eto ond un ar bymtheg oed; ond yn rhyddiaith y cyfnod yma y gwelwn gyflymder ac awch ei feddwl, ac yn 1877 argraffwyd traethawd o'r eiddo, Gobaith ac Anobaith y Bengalis. Yma ymddengys yn glir thema ei fywyd, sef, Angen y Dwyrain a'r Gorllewin am ei gilydd. Flwyddyn yn ddiweddarach, daeth ei lyfr cyntaf o'r wasg, Stori'r Bardd, ac o hyn ymlaen cyhoedd- wyd ei farddoniaeth yn gyson, ac yn 1881, a'r bardd erbyn hyn yn ugain oed, ysgrifennodd ei ddrama gyntaf. Dylid cofio hefyd iddo ysgrifennu llawer o gerddoriaeth a chaneuon yn y cyfnod hwn. Gwelwyd eisoes i Tagore gael ei fagu mewn rhyddid oddi wrth uniongrededd, rhag gormes cred na dysgeidiaeth unrhyw gorff athrawiaethol, ac yr oedd ei grefydd o raid yn "grefydd bardd' ac yn hanfod o'r un ffynhonnell ag ysbrydoliaeth ei waith cread- igol. Teimlai fod ei farddoniaeth a'i grefydd yn un. Daeth ym- wybodaeth o hyn yn sydyn, a theimlodd symudiad yr enaid o'i fewn a goleuni llachar o'i amgylch yn dangos ffeithiau ei fywyd yng ngoleuni undeb gwirionedd. O hyn ymlaen, yr oedd yn ben dant yn ei ymwybyddiaeth o'r gwirionedd elfennol, o realiti bod- olaeth ysbrydol. Onid yw ffordd hanes datblygiad dynoliaeth wedi ei nodi gan gyraeddiadau unigolion tebyg ar hyd yr oesoedd, a gwaith creadigol pob celfyddwr yn blaenllymu datblygiad