Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"YSTAD BARDD ASTUDIO BYD" SGwRS GAN G. GERALLT DAVIES PWNC digon diddorol ar lawer ystyr yw, i ba raddau y mae Bardd Cymraeg yn agored i gael ei ysbrydoli i ganu gan bethau o'r tu allan i Gymru, a chan ddigwyddiadau a phrob- lemau a ystyrir yn anghymreig. Y mae un peth, 0 leiaf, yn weddol amlwg wrth ddarllen bar- ddonìaeth Gymraeg-hen a diweddar-sef mai ychydig o'n beirdd, ar gyfartaledd, a symbylir i ganu, gan, ac i bynciau dieithr ac estronol. Ac ar y cyfan, teimlir hefyd fod llawer o'n beirniaid yn tueddu i anghymeradwyo'r beirdd sy'n mynnu lledu eu hadenydd, megis, i "fela yn y meusydd dros y môr", fel y dywed Gwenallt yn un o'i sonedau. Dywedodd un o feirniaid y bryddest ar y testun Y Bannau, yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais, 1954, mai "dringo'r mynyddoedd agos yw camp bardd". Ond rywfodd, y mae'n bur anodd derbyn sylw cyffredinol fel yna yn ddigwestiwn. Gellir cytuno yn galonnog, wrth gwrs, y dylai bardd ddringo'r mynydd- oedd sydd agosaf ato i ddechrau, a dal i'w dringo mor fynych ag y gall, a gwerthfawrogi eu cadernid a'u harddwch mewn cân. Ond na wahardder y bardd wedyn, ar gyfrif yn y byd, os mynn ac os cyffroir ei ddychymyg,-i fentro'i awen i ddringo pinaclau eraill ymhell o'i wlad ei hun. Yn sicr, 'does dim rhaid i'r bardd garu Cymru'n llai angerddol, na'i gwasanaethu'n. llai ffyddlon, os caiff ei swyno weithiau gan bethau o'r tu allan i'w gylch a'i fywyd beunyddiol. Mewn gwirionedd, y mae amryw feirdd, a ysbrydolwyd i ganu gan gyfaredd rhyw bethau o'r tu allan i fywyd Cymru, yn y diwedd wedi cyfoethogi llenyddiaeth eu gwlad eu hunain. Petai Saunders Lewis wedi bodloni ar ddringo'r mynyddoedd agos yn unig, ni chawsem ei ddrama Amlyn ac Amig. Yr un modd, ni chawsem chwaith awdl Y Fam gan Thomas Parry, na'r bryddest Yr Ynys Unig gan Cynan, na'r ddrama fydryddol fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni yn 1957. Ac onid yw rhai o gerddi gorau Crwys ar bynciau anghymreig,­ cân fel San Malo, a'r soned Tut-ankh-amenì Y ffaith yw fod llenyddiaeth Gymraeg yn llawer cyfoethocach o'u cael. Pan drown ein golwg tua Lloegr, fe gawn fod llu mawr o feirdd y genedl honno, ar hyd yr oesoedd, wedi mentro croesi