Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CHWAREL WEDI CAU" GAN EMRYS EVANS "Dim byd ond mawnog a'i boncyffion brau, Dau glogwyn, a dwy chwarel wedi cau". MAE rhyw dristwch mawr mewn chwarel wedi cau. Yr ad- feilion; y muriau bylchog; y tyrrau meini; ambell ddarn o haearn; y llonyddwch distaw di-symud ymhobman. Dim yn digwydd ond araf dreulio o'r muriau, gan fynd yn un â'r llawr. — "Prych o dristwch". A phan gwyd y gwynt a gwneud ei ffordd rhwng y muriau drylliog, y mae iddo ryw su ddolefus, leddf, na chlywir ei debyg yn hollol yn unman arall. Mae fel pe'n cwynfan, yn ochneidio, yn gofidio. Neu, tybed ai'r gwynt a glywir yn tramwy'n drist? Ar adegau, bron na ellir clywed lleisiau yn dod o blith adfeilion y melinau. Teifl y lleuad ei golau lliw'r hufen a chreu yn y cysgodion ryw rithiau annelwig. A ddwg y gwynt hwn hen chwarelwyr y melinau a gweithwyr y bonc yn ôl i'w cynefin? A rydd y lleuad olau iddynt dramwy a throedio daear a fu gyfarwydd iddynt gynt? Ai eu lleisiau hwy a glywir yn cwynfan uwchben y carneddi, yn gofidio oherwydd yr alanas? Mae rhyw gysgod- os cysgod hefyd-yn symud yn araf i gyf- eiriad y man lle bu'r efail. Nid un i brysuro fyddai Yr Hen Of. Cam trwm, mesuredig, cyson, oedd yr eiddo ef. Ond nid oes yn aros nac eingion na megin; nid oes na phentan nac arfau. Lle bwriwyd prentisiaeth, He tyfwyd mewn crefft, lle bu trigain mlynedd o drin dur, ni saif mur yn gyfan. Yn unig erys ychydig feini duon, oer, lle bu'r manlo yn gwynnu tan feginad nerthol Yr Hen Of. Ni wyddys iddo erioed wylo, ac efallai mai'r gwynt sydd yn codi. Lle bu drws y Felin Fawr oeda nifer o gysgodion, fel pe'n ofnus o fentro i mewn, ac yn ymresymu ymhlith ei gilydd beth fyddai orau i'w wneud. Yna ymneilltua un, a symud i mewn drwy fwlch y drws, ac ar ddarn o fur teifl gysgod ffurf het galed ddu. Het galed ddu a llychlyd yr Hen Law, gyda'r tolc bychan hwnnw a fyddai ynddi bob amser. Codwyd y tolc gan sawl rybelwr bach