Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yno, dan ddylanwad mawr y Brifysgol a'r WEA y gwewyd y patrwm-patrwm na feiddiwn ei gyfnewid hyd yn oed â phrof- iadau mawr yr adolygwyr a'r prydyddion niwcliar sydd ohoni heddiw. Fel pob hen gornel gynnes ni fu'r Hen Ddosbarth erioed yn brin o ymwelwyr, a chofiaf y fflam oedd yn yT ysgwyd llaw pan ymwelai Mrs Silyn Roberts, neu Bob Richards, neu Herberi Morgan, â ni, gyda gwahoddiad cynnes i ryw Ysgol Undydd neu gilydd yn Harlech, Aberystwyth neu Fangor. Dro arall, cofiaf T. Gwynn Jones yn ein plith, a daeth ataf i ysgwyd llaw, a chofiaf llaw fawr a chynnes honno yn plethu â'm llaw innau, a'r ysgwyd llaw hwnnw yn fy nghodi bron oddi ar lawr yr Hen Ddosbarth. Ond fe ddaeth Ail Ryfel Byd i darfu ar yr hen undod, a gorfu i minnau godi 'mhac a'm dryll a'u cludo dros bum mlynedd dan fendith y "diwylliant newydd". Cofiaf awr fy nerbyn i'r diwyll- iant hwnnw gan y Sarjant Mejor bombardllyd ar draethau Bournemouth, ac ar y dydd cyntaf fy anrhydeddu â thridiau o Jancars a phario tatws-am i fardd anghofio rhoddi saliwt i ryw greadur na welsai erioed mohono o'r blaen! Cenais un o'm cerddi cyntaf ar yr achlysur hwn yn fy mywyd; cerdd amhrint- iedig i'r Sarjant Mejor druan oedd honno. Petasai wedi gweld golau dydd yn Seren y Dwyrain Elwyn, neu yn Cofion Cymru D.R., efallai y buasai'r rhyfel wedi dod i derfyn ychydig flynydd- oedd yn gynt! Wedi'r fandaliaeth, maluriwyd y breuddwydion gan gyfrwysed byd ac eglwys, ond ni ddinoethwyd y gwreiddiau. Ie, yr Hen Ddosbarth-William Davies (a chyda llaw, ei weddw hawddgar ydyw un o bileri cadarnaf Dosbarth WEA Llanegryn heddiw), Huw Vaughan, John Davies, Leandert Field- ing, Richard Gruffydd. Nid y prysur pwysig, ond lladmeryddion Mudiad y Dosbarthiadau ym mywyd y werin, a'r Apostolaeth honno'n fflam na ellir yn hawdd ei diffoddi. Pan oedd Maer un o ddinasoedd mawr Canada yn diolch mewn gwledd am yfed Ilwnc-destun, "Ein Dinas", gorffennodd ei araith â'r geiriau hyn "Yr wyf wedi sôn wrthych am ein llwyddiant materol; ond a ydym ni yn gwbl faterol? Nac ydym, yn siwr ichi. Wyddoch chi be, foneddigion? Y mae gennym yn y ddinas wych hon o'r eiddom werth dros filiwn a hanner o ddoleri o eglwysi".