Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWYDDONIAETH YN GYMRAEG GAN R. WALLIS EVANS Y Gwr o Ystradgynîais, ac Erthyglau Eraill, gan O. E. Roberts. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. 9/6. Gwyddonwyr Enwog, gan W. M. Rogers. Gwasg Gee. 7/6. Peth calonogol iawn y dyddiau hyn yw gweld mwy a mwy o wyddonwyr yn trafod eu pwnc yn Gymraeg. Ar ryw olwg, mae'n anodd cyfrif amdano, oblegid trwy'r Saesneg, yn ddiau, y daw'r mwyafrif ohonynt o hyd i'w gwybodaeth. Tybed, a oes mwy o ymwybod â'r Gymraeg ymhlith yr ifainc nag a fu ers tro? Neu a welir mwy o werth yn y Gymraeg a mantais mewn bod yn ddwyieithog? Neu a oes flas arbennig ar drafod y pethau hyn yn Gymraeg? Cyfrol gwbl ddiddorol ac amserol yw'r gyntaf, a chymwynas arall gan O. E. Roberts i Gymry a'r Gymraeg. Mae'r teitl yn bryfoclyd-Y Gwr o Ystradgynfais-teitl sy'n dwyn i gof y gŵr o Bencader neu'r gŵr hynod hwnnw y mae cofeb iddo ym mharc Ynystawe-ond nid gwiw i neb ddywedyd pwy ydyw rhag colli'r ystyr hud. Mae'n enghraifft deg, fodd bynnag, o wr a gododd o freintiau prin ein trefi a'n pentrefi a chyrraedd pinacl ei briod faes. Ceir sôn am fwy nag un o'r cyfryw yn y gyfrol hynod ddarllenadwy hon, ac y mae ein calonnau'n cynhesu atynt. Rhennir y gwaith yn bedair rhan: Y sêr yn eu graddau, Pa beth yw Dyh ? Anrhydeddwch y Meddyg, ac Ond pa le y ceir Doethineb? Y mae tair erthygl yn y rhan gyntaf ac amheuthun yw cael trafod holl ryfeddodàu'r sêr a'r pellafoedd mewn Cymraeg croyw a chartrefol, yn enwedig yn wyneb yr holl bethau syfrdanol sy'n digwydd y dyddiau hyn yn Rwsia ac yn America, a dyn ei hun wedi mentro i'r gofod. Ac nid hynny'n unig: ceir yma hefyd ddehongliad clir ar berthynas y bydoedd â'i gilydd, a'r modd y tyfodd ein gwybodaeth amdanynt o arbrawf i arbrawf. Rhyfedd meddwl fod peth o'r goleuni sy'n cyrraedd y byd heddiw yn disgleirio yn y pellter- oedd pan oedd Elisabeth y Gyntaf ar yr orsedd a phan gyfieith- wyd y Beibl Cymraeg. Petai modd i'r goleuni hwnnw lefaru, pa ryfeddodau a ddatguddiai! Mae'r tair erthygl, O Dragwyddol- deb i Dragwyddoldeb, O Bellafoedd y Cyfanfyd a Y Sŵn ymysg y Sêr, yn arbennig o werthfawr yn wyneb y ddadl sy'n troi y dyddiau hyn o gwmpas syniadau gwyr fel yr Athro Hoyle, ac ymhlith gwyddonwyr Rhydychen a Chaergrawnt.