Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS Gan C. E. THOMAS O'R deuddeg dosbarth ar hugain a welais yr oedd 22 yn cael eu cynnal yn Gymraeg: Arfon 11, Meirionnydd 5, Dinbych 3, Môn 2, Fflint 1. O'r 10 dosbarth a gynhelir yn Saesneg yr oedd 5 yn Sir y Fflint, 3 yn Sir Ddinbych, un yn Arfon ac un ym Meirionnydd. Nodwedd gyffredin i'r holl ddosbarthiadau oedd eu bod o ddifrif. Dyma nodiadau am rai ohonynt wedi eu dewis ar antur. Chwilog yn astudio Seicoleg gyda Gwilym O. Roberts, ac mewn sgwrs a gefais â'r aelodau ar y diwedd dywedodd un ohonynt y buasai'n fodlon talu punt am bob noson pe gallai fforddio hynny. Nant Gwynant, unig ac anghysbell, i'r myfyrwyr a'r athro, yn astudio Problemau Cyfoes. Y noson honno yr oeddynt yn y Dwyrain Canol. Uwchartro, gyda W. D. Williams, yn trin Diwylliant Gwerin Cymru. Mynydd Llandygái, Hanes Crist- nogaeth, o dan arweiniad R. Tudur Jones. Dosbarth Meuryn yng Nghaernarfon yn feirdd bob un, ond seicolegwyr Caer- narfon oedd yn nosbarth Stephen O. Tudor. Mater o bwys i'r ddau ddosbarth yma oedd ffurfio cangen WEA yng Nghaer- narfon. Gwnaethpwyd hynny gyda brwdfrydedd a dewiswyd swyddogion i'r gangen, Cadeirydd: Glyn Penrhyn Jones; Is- Gadeirydd: E. Beynon Davies; Trysorydd: E. H. Jones; a Miss Morfudd Morris yn Ysgrifennydd. Pan euthum i weld dosbarth Llandderfel yr oedd y gwynt yn chwythu'n fain a ffyrnig, er hynny yr oedd yno 19 yn cyd-drafod Crefydd Heddiw gydag Idwal Jones. Noson arall, cyfarfod dos- barth Llandrillo, ac E. Goronwy Owen yn astudio Cefndir Athronyddol yr Hen Destament. Dosbarth newydd yn Nhy'n y Bont, ger y Bala, ac R. G. Williams, yr athro, yn trin Enwogion Cymru. Yn y dosbarth hwn cyfarfyddais â dau gyfaill a oedd wedi bod mewn dosbarthiadau eraill, y naill wedi dechrau yn nosbarth Capel Celyn pan oedd E. Lewis Evans yn athro arno yn 1932-33, a'r llall wedi bod yn aelod (yr ieuengaf) yn nosbarth y Manod o dan H. R. Evans. Cof da ganddynt am yr athrawon cynnar a'u cychwynnodd yn y dosbarthiadau hyn. Ym Mhenycae, a John R. Roberts yn athro, yr oedd trafod- wyr cadarn, yn ddarllenwyr eang ac yn ddiwinyddion goleuedig. Dosbarthiadau ac athrawon eraill a welais oedd Harlech gyda