Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GOLEG HARLECH GAx T. I. JEFFREYS-JONES Bu Tymor Y Pasg yn dymor prysur yng Ngholeg Harlech. Aeth y cwrs "Dysgu Cymraeg" rhagddo'n llwyddiannus, gan ddod i ben yn nechrau mis Mawrth. Ar y seithfed ar hugain o Fawrth, daeth Islwyn Ffowc Elis, cynlluniwr y cwrs; Mrs Jones-Roberts, a fu'n cywiro'r ymarferiadau; Warden Coleg Harlech; Idris Evans y BBC; a dau o'r myfyrwyr ynghyd i recordio darllediad i gloi'r gyfres. Parhaodd mwy na hanner y myfyrwyr i anfon eu hymarferiadau i'w cywiro hyd ddiwedd y cwrs. Ym mis Ionawr bu'r Warden yn annerch cyfarfod o gynrychiolwyr yr Undebau Llafur yn Transport House, Caerdydd, cyfarfod a drefnwyd gan Ron Mathias, a chafodd groeso da. Ar derfyn yr ymgynghoriad, penderfynwyd cynnal cynhadledd arall yn Harlech ym mis Gor- ffennaf. Testun y gynhadledd^honno fydd "The Trade Union Movement and Adult Education in Wales". Yr oedd 76 o fyfyrwyr preswyl yma y tymor hwn. Bydd o ddi- ddordeb i ddarllenwyr Lleufer ddeall i'r milfed myfyriwr blynyddol gofrestru yn y Coleg y tymor hwn, a hefyd fod 219 0 fyfyrwyr am dymor yn unig, 1,326 o fyfyrwyr am fis yn unig, 4,776 o fyfyrwyr preswyl Ysgolion Haf, a 11,209 o fyfyrwyr Ysgolion Haf heb fod yn byw i mewn, wedi bod yn y Coleg er ei sefydlu. Yn ystod gwyliau'r Pasg aeth athrawon Coleg Harlech, ynghyd- a nifer o fyfyrwyr yr Ysgolion Haf, i Augsburg, o dan ofal John Selwyn Davies, Is-Warden y Coleg. Buont yno am ddeng niwrnod yn westeion i Almaenwyr a fu yn Ysgolion Haf Coleg Harlech. Ym mis Awst, bydd y Warden yn arwain grwp o Gymry i Dden- marc, lle y bydd ef a Gwyn Jones, o goleg Aberystwyfh, yn cyn- nal Ysgol Haf. Ymfalchïwn yn llwyddiant David Mills, broder o Ferthyr Tudful, ar iddo ennill ysgoloriaeth Adran Efrydiau Allanol Prif- ysgol Caergrawnt. Dyma'r ail dro yn ystod y pum mlynedd di- weddar i'r wobr werthfawr hon ddod i ran un o fyfyrwyr Coleg Harlech. Enillodd un o'n cyn-fyfyrwyr, Granville Whitehead, Ysgoloriaeth yr Imperial Relations Trust, ac y mae ar hyn o bryd yn astudio cyflwr yr Undebau Llafur yng Nghanada. Buom wrthi'n ddygn yn ceisio sicrhau arian i alluogi myfyr- wyr o Affrica i ddod i'r Coleg i astudio. Ar y seithfed o Fawrth,