Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

recordiodd y Warden ddarllediad ar gyfer y rhaglen, "Discussing Wales", rhaglen a ddarlledir ar donfedd fer i'r Dwyrain Canol ac i Affrica. Yn ystod gwyliau'r Pasg, bu'r Coleg yn cydweithredu â'r "United Nations Association", a chynhaliwyd cynhadledd i fyfyr- wyr chweched safon ysgolion Cymru, yn Harlech. Daeth cyn- rychiolaeth o bob Sir. Y mae hyn yn rhywbeth newydd yn hanes y Coleg, ac un o'n hamcanion oedd cyflwyno'r Coleg i'r genedl- aeth ifanc-eu gwneud yn gyfarwydd â chefndir y Coleg, ac â'i ddelfrydau. Tymor o lwyddiant fu hwn i'r tîm rygbi, a dewiswyd nifer o'n chwaraewyr i chwarae yn nhîm Gogledd Cymru. Ymunodd ein myfyrwyr mewn nifer o weithgareddau rhyng- golegol-yn eu mysg, yr ymryson areithio am frysgyll Y Cymro, a bu timau areithio Bangor ac Aberystwyth yma droeon. Gorchwyl trist yw cofnodi marwolaeth un o'n myfyrwyr cyntaf ac un o'r rhai galluocaf — J. B. Jones (1927-28). Ef oedd Warden Sefydliad Bargod, a bu'n gweithio'n ddygn i hyrwyddo llwydd- iant Addysg Pobl mewn Oed yn Nyffryn Rhymni. Pwtyn a Pigo Pig, gan Norah Isaac; Pero a Gogo-Go, gan Dyddgu Owen. Cyfres Y Gloyn Byw, Llyfrau r Dryw. 4/6 yr un. Mewn dyddiau pan y mae prinder llyfrau Cymraeg i blant bach yn peri pryder nid bychan i rieni Cymraeg, rhydd dau lyfr o eiddo Norah Isaac, a dau arall gan Dyddgu Owen, lawenydd mawr inni. Y mae eu cloriau yn lliwgar a deniadol, a'r darlun- iau oddi mewn yn nodedig o dlws, ac yn dweud eu stori bron heb ddarllen y geiriau oddi tanynt. Sylwaf fod y pedwar llyfr wedi eu hargraffu yn Ffrainc, ac os yw hyn yn enghraifft deg o argraffu gwlad arall, rhaid cymera- dwyo'r argraffwyr yn fawr. Mae'r print yn fras, a'r storiau'n dar- llen yn rhwydd, a'r iaith yn ddigon syml i blentyn pump oed ddysgu darllen ohonynt. Y mae rhyw anwyldeb rhyfedd yng nghyflwyniad y storïau i gyd, a fydd yn sicr o apelio at blant ar unwaith. Maent hefyd yn storïau am greaduriaid y bydd plant bob amser ynJhoff ohonynt. Y mae eu pris rhesymol o fewn cyrraedd pawb. K. BURGESS JONES