Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDD Atgofion Cardi, gan Thomas Richards. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. Clawr ystwyth, 5/ caled, 8/6. Mwynhad i mi yw darllen unrhyw beth os bydd wedi ei ysgri- fennu gan Dr Tom Richards ar Atgofion Cardi. Nid edrychais ar ddim arall nes ei orffen, ac os digwydd i awr o ddiflastod ddy- fod arnaf o hyn ymlaen, byddaf yn siwr o droi at yr Atgofion i ddwyn melystra i'm profiad. Digywilydd-dra ar fy rhan i fyddai dweud fy marn am Tom Richards, ac eto, y mae yn rhydd imi ddweud fy mod yn argyhoeddedig ei fod yn feddyliwr craff, ac yn bersonoliaeth fawr a diddorol, yn meddwl yn glir ac yn onest. Braint yw cael edrych ar fywyd o ongl dyn mawr. Dyna i mi yw neges a gwerth yr atgofion hyn, ond y mae yna berygl i hiwmor ac arabedd yr awdur beri i'w ddarllenydd fodloni ar fwynhad a diddordeb. Wrth gwrs, y mae hiwmor iach yn hydreiddio popeth a ddywed y Dr, ond y mae llawer mwy ynddo. Ni all y gwr hwn fod yn sych a diflas; ond er ei fpd yn ysgrifennu mor esmwyth a llyfn, y mae yna her ddwys a dwfn o dan y cyfan. Atgofion wedi aros, ymlyfnu ac ymsefydlu, yw un o'r dylan- wadau a benderfyna naws a natur personoliaeth, a thrwy'r at- gofion a geir yn y llyfr hwn ceir rhyddid i gyfathrach agos â gŵr sydd yn werth i'w adnabod. Ynfyd y neb a ddiystyro gym- deithas pobl well a doethach nag ef ei hun. Adran arbennig yw yr un am Goleg Bangor-i mi y mae yn llawn swyn a chyfaredd. Nid gormodedd yw dweud mai ef yw un o'r sefydliadau pwysicaf yng Ngogledd Cymru, ac er hynny ychydig o wir ddiddordeb a gymer y mwyafrif ohonom ynddo, yn ei waith ac yn ei athrawon, heb sôn am yr efrydwyr. Nid yw amgen na chyfrwng i'r ifanc ddyfod yn ei flaen, beth bynnag a olygir wrth hynny. Yng nghyfnod y Dr a minnau yr oedd v coleg yn ei fachgendod i raddau, h.y. mwy o gaethiwed a hefyd mwy o ryddid. Efallai mai gwell fuasai i mi beidio â sôn am gyfnod bachgendod coleg, ond dyna fo. Gadawaf iddo heb geisio'i esbonio, ond yn unig dweud fod y Coleg yn aelwyd ac yn ysgol. Yr oedd yr efrydwyr yn adnabod ei gilydd trwy'r Coleg, ac yn cofio mai efrydwyr oeddynt, ac nid athrawon, ac yn ben ar y cwbl yr oedd yno bob math ohonynt. Buaswn innau yn gallu dweud tipyn am yr athrawon-dynion sydd yn mynd yn fwy ac yn deilyngach wrth gofio amdanynt a meddwl ychydig. Ond y mae Dr Tom Richards yn gallu ei ddweud yn llawer gwell. Diolch iddo am ei lyfr.