Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y gwahaniaeth rhwng cynio ymenyn a naddu marmor. Yn sicr, naddu marmor sydd yma, ac fe ddaw i gof yr adnod gyhyrog honno o'r Diarhebion — "Y mae cenhedlaeth â'i dannedd yn gleddyfau a'i childdannedd yn gyllyll i ddifa y tlodion oddi ar y ddaear a'r anghenus o blith dynion". Dengys yr awdur fanylder gwybodaeth am fywyd baracs, am wlad Palesteina (yn cynnwys Bethania a Mynydd yr Olewydd), am ysmygu opiwm ac am boethder rhyfel. Llais yr heddychwr sydd yma, yn cyhoeddi oferedd rhyfel. Clywch arno: ­"Pa synnwyr sydd mewn canu 'Calon Lân' a 'Tyrd Ysbryd Santaidd' heno ac yna lladd yfory?" Sylweddola'r pechod o ladd. Nid oedd meddwi ond "llychyn wrth yr Wyddfa o'i gymharu â chwifio baner rhyfel". Yna daw'r ymadrodd arswydus am Huw Prydd- erch­"ei fyw ef oedd trengi". Y mae gan yr awdur ddisgrifiadau gwych-y trên "yn och- neidio'n duchanllyd fel rhyw greadur enfawr lluddedig yn anadlu'n drwm o'r asthma"-y tair lleian "â'u hanadl sanctaidd fel siffrwd awel dyner ar sidan"y milwyr "yn ddwyres yn y plên fel ieir yn clwydo" ac yna'n twmblo allan i'r wawr-ei wep "fel clwt llawr wedi ei wasgu'n hesb’'­llais ar y ffôn "a allai lithro ar draws y wifren fel pluen yn sgil y gwynt" — a'r cwrw Eifftaidd "wedi ei wneud, mwya tebyg, â chwys nadroedd a phoeri sgorp- ion a'i hidlo drwy we pry copyn". Ceir hefyd hiwmor wrth sôn am y dyn tenau â'i wisg yn dal ei esgyrn ynghyd, a'r "bôl berings yn spowtan o'i pherfedd fel pys o bi shwtar". Nid yw'n gwrthod geiriau fel tryc, mwg (mug), deinti, difors, y bleitars, mes (mess) ac ysrincian. Os am rywbeth i'n hysgwyd, dyma gyfrwng hynod o effeithiol. Cartrefi Enwogion, gan Myfi Williams. Gwasg y Brython. 8/6. Anodd meddwl am lyfr mwy cartrefol-y fam a'r tad a thri o rai bach yn mynd fel un teulu o gwmpas hen gartrefi enwog Cymru a heb anghofio croniclo'r adwaith ar y plant. Y mae'r awdur yn llenor ac yn gwybod ei stwff. Pwrpasol yw'r ansoddair yn y frawddeg "Wal gerrig angharedig" a welodd wrth nesau at hen gartref W. J. Gruffydd ym Methel. Nid sebon meddal sydd yma. Wrth sôn am Henry Jones, y mae cyfeiriad cynnil at ei agwedd tuag at ryfel, ac fe gofiodd yr awdur ddweud i rywun awgrymu y dylid ychwanegu'r gair "Critic" ar garreg fedd W. J. Gruffydd. Awgryma'r awdur fod tv fel Llwyn Idris yn gweddu i "retired Christian" fel John