Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crwydro Patagonia, gan Bryn Williams. Cyfres Crwydro Cymru. Llyfrau'r Dryw, 9/6. Awen Ariannin, gan Bryn Williams. Llyfrau'r Dryw. 12/6. Y mae llyfr newydd Bryn Williams, Crwydro Patagonia yn cymryd ei le'n hwylus yn y gyfres hardd, Crwydro Cymru. Yn sicr, nid oes yr un yn darllen yn rhwyddach nac yn fwy rhaman- tus na'r llyfr hwn. Aeth yr awdur ar daith i Dde America yn niwedd 1959 a dechrau 1960, a ffrwyth y daith honno yw Crwydro Patagonia. Yn y llyfr hwn cawn y fraint o grwydro Patagonia yng nghwmni Bryn Williams, ac y mae'r fraint honno yn hynod o rad am 9/6. Ysgrifennwyd y llyfr ar ffurf dyddiadur, ac yn ysbaid chwe mis, fwy neu lai, crynhoir llawer o brofiadau a sylwadau a gwybodáeth mewn ffordd ddiddorol a darllenadwy. I bwy bynnag a fu ar daith gyffelyb o'r blaen, dwg y llyfr hwn y prof- iad hwnnw'n ôl yn ffres a bywiog. I'r sawl sy'n ddieithr i'r amgylchiadau y mae yma wledd ddanteithiol. Yr hyn a wna'r llyfr mor llwyddiannus yw fod Bryn Williams yn cerdded ar hyd hen lwybrau. Gwyr ef beth sydd o'i flaen, ac y mae profiad a gwybodaeth o'i destun yn ei wneud gymaint â hynny'n gyfoethocach ac aeddfetach. Wrth daro ar ffrwd bywyd beunyddiol Ariannin, codir ambell gŵyn i'r golwg megis honno yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac am v swyddfa ddarlledu, ac wrth godi tocyn Pullman, ond y mae Bryn Williams yn mwynhau pob anghysur. Ceir hefyd ambell wers briodol i Gymru heddiw, wrth gyfeirio at gyfeillgarwch y bobl gyffredin, a'u cwrteisi cyffredin, a'u hym- drech i'w diwyllio eu hunain. Modd bynnag, prif pwynt y llyfr yw'r cysylltiadau Cymreig. Trewir ar hyn gyntaf yn Buenos Aires, lle cyfarfu'r awdur â nifer o gyfeillion Cymraeg na welsent Gymru erioed. Yma a thraw yn y llyfr gwneir sylwadau treiddgaT ar y bywyd Cymreig yn Ariannin heddiw, a chawn olwg ar brif nodweddion y Wladfa. "Ni welais neb mewn angen yn y Wladfa, na neb yn gweithio'n galed, a bron bawb yn feistr arno'i hun ac yn byw'n hamddenol braf yn yr haul. Ac ni phoenant am y byd a'i helynt- ion". Ar ei daith manteisia'r awdur ar y cyfle i gyfeirio at ddigwydd- iadau o bwys yn hanes y Wladfa, ac y mae'r rheini yn niferus gan gofio y bydd Canmlwyddiant sefydlu'r Wladfa yn 1965.