Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Chymru, eithr digon yw dyfarniad Cynan unwaith "ar gyfan- soddiadau a ddaliasai en tir wrth gyfansoddiadau unrhyw eisteddfod daleithiol yng Nghymru". Pan gofir am y Wladfa fel cynifer o bentrefi gwledig, y mae hynny'n glod nid bychan i feirdd y Wladfa. Beth bynnag am gynhyrchion barddonol y Wladfa, prif gyfran- iad y Gwladfawyr wedi'r cwbl yw eu hanturiaeth mewn gwlad estron, ac y mae cryn dipyn o farddoniaeth yn yr anturiaeth HARRI SAMUEL Awen Môn ac Awen Maldwyn. Cyfres Barddoniaeth y Siroedd. 8/6 yr un. Cerddi'r Mynydd, gan Iorwerth H. Lloyd. 6/ Heulwen tan Gwmwl, gan D. H. Culpitt. 5/ Y cwbl wedi eu cyhoeddi gan Lyfrau'r Dryw. Dyma'r ail a'r drydedd gyfrol yng Nghyfres Barddoniaeth y Siroedd allan ar sodlau'i gilydd. Cefais y fraint o adolygu un o'r cyfrolau hyn eisoes yn Baner ac Amserau Cymru, a dywedais yr adeg honno mai peth hawdd iawn fyddai bod yn feirniadol a phwysig uwchben casgliadau o gerddi cymysg o'r natur yma, heb gofio mai cynnyrch awen beirdd gwàhanol iawn i'w gilydd ydynt, gwahanol o ran cefndir, diwylliant, ac oedran. Beirdd gwledig, naturiol, ydynt, a chanant am fod ynddynt yr ysfa i wneud hynny. Hawdd iawn fyddai rhuthro i ddweud fod eu cerddi yn colli mewn dyfnder gweledigaeth a gwreiddioldeb mynegiant. Rhodres fyddai beirniadaeth o'r fath. Ceiriog ac Eifion Wyn sy'n dal i ysbrydoli'r delyneg o hyd fel y dengys llinellau fel hyn: Ger llidiart y mynydd Y ng nghartref y brwyn Y cwrddais â rhywun A'm denodd â'i swyn. I lidiart y mynydd Y canaf o hyd Yng nghwmni'r ehedydd O olwg y byd.