Skip navigation

Lleufer

 - 

Cyf. 17, rh. 2 Haf 1961

Awen Môn ac Awen Maldwyn. Cerddi'r Mynydd. Heulwen tan gwmwl. Book review.

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
A'r Iesu eilwaith a droes i wylo
O weled y llwch yn drwch ar ei draed.
Enghraifft o'i grefft hefyd yw ei englyn: 'Y Gronyn Gwenith'.
Yn gynnar daw'n eginyn-o'i osod
O dan gwysi priddyn;
Daw'r adeg i droi wedyn
Ei frig aur yn fara gwyn.
Gall fod yn wir ddoniol hefyd fel yn 'Y Cloc Larwm' a chywydd
'Y Corgi'. Sylwi wedyn ar ffarmwr yn troi allan i ganol storm
eira, a dweud am dano: "Mae'n gwisgo mwy nag Esgimo".
Yn ei ragair i Heulwen tan Gwmwl, dywaid E. Lewis Evans
am D. H. Culpitt:
Gwybu ein cyfaill frwydro'n hir a glew yn erbyn afiechyd a
gwendid. Bu cofio am ei sirioldeb heintus a'i anian rywiog yn
fy ngheryddu droeon. Gwelodd falurio'r gymdeithas o'i
gylch gan drai a llanw diwydiant. Hebryngodd dorf o gyfeill-
ion i'w gwelyau'n gynnar dan ormes "dwst y garreg".
Ymhellach dywaid:
Tenau ei lygaid ar ryw bethau neu'i gilydd yn ymsymud
Bron yn ddieithriad, gweithredoedd yw gwaelod ei gerddi.
Ceir syniad go dda oddi wrth y dyfyniadau hyn am gefndir y
bardd o Gefneithin, a'r hyn a'i cymell i lunio cerdd.
Bardd sy'n canu ei gn ei hun yw D.H.C. a hynny mewn
telyneg a soned. Mae'n wreiddiolach a chraffach na llawer o
feirdd, ac o brofiad, fel rheol, y cn. Gall fod mor dyner 
dweud am "Rahel o'r Bryn" a fu farw dros ei chant oed:
Bu rhywun yn trefnu fod mordaith fach lefn
Pan groesai'r hen wreigan a'i siol ar ei chefn.
Gall fod mor wrthryfelgar-ddewr  dweud yn Y Fedel am gamp
y gwyddonydd "yn ffrwyno'r egnon" ac yn arbrofi "yr ergyd
drydanol ar ynys a gysgodd yn hir". Meddai:
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.