Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

am bosibiliadau bom hidrogen yn nwylo mab i wyddonydd allan o'i bwyll". 'Roedd pedair o'r rhain wedi'u cyhoeddi'n barod mewn gwahanol bapurau a chylchgronau, ac un arall wedi'i dar- lledu yn Saesneg. Cywirdeb, nid dyfnder a chynhesrwydd, yw grym pennaf John R. Evans, ac am hynny 'dyw e ddim yn llwyddo yn 'ì storïau i'r un graddau ag yn 'i ddramâu byrion. Mae dyn yn sownd o gym- haru â'r goreuon, a 'does gennym ni neb fel D. J. Williams, Kate Roberts, John Gwilym Jones, Tom Huws Jones, etc., y storïau byrion yn sgrifennu dramâu byrion. Ond mae pob un o'r deg stori yma'n dal 'i darllen a diolch i Wasg Aberystwyth am 'u rhoi nhw gyda'i gilydd rhwng dau glawr caled, a siaced lwch ddeniadol o waith Meirion Roberts amdanyn hw. Cyfaddasiad yw Y Merlyn Du o'r ddrama radio Tanglemane, o waith Tudur Watkins-prifathro Ysgol Gynradd Abertridwr, ac y mae 'i ddramâu yntau'n hen gyfarwydd i blant Cymru drwy gyfrwng y radio sain. Gadewais i Delith Miles, croten ddeuddeng mlwydd oed o gyfeiriad y Garnswllt, Rhydaman, drin y Merlyn a mwynhaodd hithau 'i siwrne i'r eitha. Digon o fynd, digon- edd o iasau, whilia naturiol-bach iawn o ddisgrifio sydd yma- a'r eirfa heb fod yn dreth ar blentyn o'r oed yma. "Mae'r Merlyn Du yn siwr o ddod yn ffefryn gan lawer o blant", meddai Delith. 'Gest ti drafferth gyda'r dafódieth?" myntwn i. "Naddo i, mân 'nhw'n whilia 'run peth â ni yn gwmws". Ac erbyn meddwl, 'does na fawr fwy o ffordd i frân nag sy i gar o'r Garnswllt i Landysul. 'Dwy i ddim yn credu y cân'hw drafferth chwaith yn eitha Môn ac Arfon i ddyall Mr Stark, a Ben Puw, a Defi a'r lleill yn whilia â'i gilydd wrth wau'r stori ddiddorol yma i'r plant. EIC DAVIES Y Gwningen Fach a'i Ffrindiau, gan J. Ellis Williams. Llyfrau'r Dryw. 7/6. t Dyma John Ellis Williams wedi cymryd nifer o'r storïau an- farwol am Brer Rabbit, a'u hail-bobi a'u hail-adrodd mewn dull bywiog a diddorol dros ben. Rwy'n siŵr y bydd plant bach a phlant mawr o bob oed, wrth eu bodd yn eu darllen. Y mae llawer o storïau swynol am y Gwningen Fach eto heb eu hadrodd — yn wir, fe gyfeirir at ddwy neu dair ohonynt yma-a bydd croeso brwd i'r ail gyfrol pan ddaw. D.T.