Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRA WN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITMWYR YNG NGHYMRU Cyf. XVII GAEAF 1961 Rhif 4 NODIADAU'R GOLYGYDD YR oedd yn ddigon main arnaf am bwnc i sgrifennu Nodiadau'r Golygydd arno yn Rhifyn yr Hydref, nes imi daro ar lyfryn pwysig Bobi Jones. Ond, y tro hwn, yr oeddwn ar ganol dewis rhwng dau neu dri o bynciau pan ddaeth pwnc mwy amserol a difyr ar draws fy llwybr, a bu raid dilyn hwnnw. Gwrandewais, drwy gyfrwng y radio, ar y Cyfarfod Ffarwel ym Mhafiliwn Caer- narfon, a chael fy siomi'n ddirfawr ynddo. Nid ar y rhaglen nac ar y cynhyrchydd yr oedd y bai am hyn, ond yr oedd gennyf i atgofion am y Pafiliwn dros hanner canrif yn ôl, ac ni allai'r bobl ifainc, er eu hactio a'u canu rhagorol, ddwyn y dyddiau hynny yp ôl imi. Clywais rywrai (cyfaill imi, ambell un) yn adrodd darnau o arelthiau Henry Jones ac O. M. Edwards, a dynion mawr eraity, ond 'jgr cystal oedd eu hadrodd, nid oedd na'u lleisiau na'u harddun yn debyg i'r gwŷr y ceisient eu portreadu. Cawsom ddyfyniad o araith gan Lloyd George yn ei lais ei hun oddi ar ramoffon, ond darn sâl ydoedd fel darn o bren, heb ddim o'r trydan a'r miwsig a'r direidi a gyflwynai ef drosodd i'r gynulleidfa. Am 'wn i, yr oedd yn eithaf priodol na cheisiwyd gan neb ddyn- wared John Morris Jones yn beirniadu'r awdl yn yr Eisteddfod Genedlaethol-dyna efallai uchafbwynt hanes y Pafiliwn i mi. Dyma'r enghraifft orau y gallaf ei chofio o gynulleidfa fawr Gymreig yn ymateb i ddiwylliant Cymraeg clasurol, coeth, a bydd yn cynhesu nghalon bob amser feddwl amdani. Clywais ef yn beirniadu'r Awdl yn Eisteddfodau 1906 a 1921, gan ddyfynnu darnau helaeth o'r Awdl orau, a'r gynulleidfa'n gwrando arno fel llygod. Awdl Y Uoer J. J. Williams oedd-hi yn 1906, ac un Meuryn, Min y Môr, yn 1921. Llafar-ganai'r Athro y llinellau fel pregethwr yn mynd i hwyl, ond hwyl yr artist oedd hon, nid hwyl y proffwyd. Gallaf gofio goslefau ei lais yn iawn, ond nid oes gennyf ddawn dynwared. Efallai y bydd y nodau hyn mewn Sol-ffa (Cywair F) yn foddion i gyfleu rhyw annelwig rith o'r seiniau hudol a glywem ni wrth wrando arno-